Newidiadau i blismona

  • Cyhoeddwyd
PCSOFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o swyddogion cynorthwyol cymunedol (PCSO) ond llai o swyddi mewn gorsafoedd heddlu

Bydd Heddlu'r De yn recriwtio mwy na 200 o swyddogion cynorthwyol cymunedol (PCSO) mewn cyfnod lle mae staff sifil y llu yn wynebu toriadau.

Cyfaddefodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Colette Paul y gallai swyddi sifil ddiflannu pan fydd swyddi ymholiadau yn cael eu torri yn ddiweddarach eleni.

Roedd yn gobeithio y byddai'r diswyddiadau yn wirfoddol, ac y byddai rhai yn cael eu symud i swyddi eraill.

O dan drefniadau newydd, bydd wyth gorsaf yn agor am fwy o amser, bydd gorsafoedd symudol yn cael eu cyflwyno ac fe fydd pobl yn medru adrodd am droseddau ar-lein.

Rheng flaen

Mae'r cyfan yn rhan o gynllun Strategaeth Mynediad sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghori gan Heddlu'r De ddydd Mercher.

Mynnodd Ms Paul ei fod wedi ei greu er mwyn "gwasanaethu'r cyhoedd yn well", gan ddweud mai'r prif bwrpas oedd canolbwyntio ar y rheng flaen o blismona wedi i ffigyrau diweddaraf y llu ddangos bod llai o bobl yn ymweld â gorsafoedd heddlu dros y blynyddoedd diwethaf.

O dan y drefn newydd, yr wyth orsaf fydd yn parhau ar agor rhwng 16 a 24 awr y dydd yw :-

  • Pen-y-bont ar Ogwr;

  • Y Barri;

  • Bae Caerdydd;

  • Canol Caerdydd;

  • Merthyr Tudful;

  • Pontypridd;

  • Castell-nedd;

  • Canol Abertawe.

'Addasu'

O fis Ebrill, bydd y cyhoedd yn medru adrodd am droseddau ar-lein, a chadw golwg ar yr ymchwiliad i'r troseddau hynny.

Roedd Richard Jones o Ffederasiwn Heddlu'r De yn "croesawu unrhyw ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth fydd yn rhyddhau'r heddlu".

Ac fe ychwanegodd Colette Paul: "Ychydig iawn o bobl sy'n galw heibio i orsaf heddlu yn bersonol.

"Mae'r ffôn symudol, e-bost a'r we yn cael eu defnyddio fel ffyrdd llawer pwysicach o gysylltu â ni.

"Rhaid i ni felly addasu i hynny."

Bydd staff yn cael clywed am y datblygiadau ond ni fydd penderfyniad terfynol ar y cynllun tan yn ddiweddarach eleni.