Lladrad: Anfon cannoedd o blant adre

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gyfun LlanhariFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae gobaith y bydd Ysgol Gyfun Llanhari yn ailagor ddydd Iau

Cafodd cannoedd o blant eu hanfon adref ddydd Mercher wedi i ladron ddwyn pibellau copr, gan achosi difrod mawr i system wresogi'r ysgol.

Torrodd y lladron i mewn i Ysgol Gyfun Llanhari ger Llantrisant dros nos a'r amcangyfri yw y bydd yn costio miloedd o bunnau i atgyweirio'r difrod gan i'r lladrad hefyd achosi llifogydd.

Bydd costau ychwanegol i'r awdurdod lleol gan i brydau bwyd gael eu colli ac roedd angen trefnu cludiant ychwanegol i'r plant.

Mae pennaeth yr ysgol, Meirion Stephens, wedi cadarnhau y bydd yr ysgol ar agor fel arfer ddydd Iau.

Dywedodd y Cynghorydd Eudine Hanagan, Aelod Bwrdd Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda chyfrifoldeb am addysg, sgiliau a dysgu gydol oes: "Rwy'n ffieiddio at y lladrad a'r fandaliaeth yn Ysgol Gyfun Llanhari.

"Fel awdurdod, rydym yn ymfalchïo yn yr adnoddau o'r radd flaenaf sy'n cael eu cynnig i'n pobl ifanc.

"Mae dwyn metel yn costio'r Cyngor - a'r trethdalwr yn y pen draw - dros £250,000 y flwyddyn ac mae hwn yn arian y dylen ni fod yn gwario ar wasanaethau eraill er budd ein trigolion.

"Ar ben hynny, rydyn ni'n ddig fod ein cymunedau mewn perygl oherwydd lladron difeddwl sy'n dwyn metel o bolion goleuadau stryd, ffyrdd a hyd yn oed adeiladau gwerthfawr fel eglwysi.

"Byddwn ni'n annog unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth neu sy'n gweld rhywbeth amheus i gysylltu â'r heddlu.

Nid fydd lladradau o'r fath yn cael eu goddef yn y sir ac fe fyddwn ni'n dal y troseddwyr."

Buddsoddiad

Mae swyddogion o'r awdurdod lleol ar y safle yn ceisio trwsio peth o'r difrod a'r gobaith yw y bydd Ysgol Gyfun Llanhari ar agor yfory i'r 700 o ddisgyblion.

Yn ddiweddar, cafodd darnau o blwm eu dwyn o do'r adeilad. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd yn buddsoddi £3.3 miliwn ar y safle er mwyn cynnwys adnoddau ysgol gynradd ar y safle.

Dylai unrhywun â gwybodaeth am y lladrad ffonio Heddlu'r De ar 101 neu'r cyngor ar 01443 494700.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol