Cwmni am dreblu cronfa gymunedol

  • Cyhoeddwyd
Tyrbinau gwyntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni RWE npower yn bwriadu codi 50 o dyrbinau gwynt ger Llanbrynmair

Gallai cymunedau yn ardal Llanbrynmair ym Mhowys elwa yn sgil penderfyniad cwmni ynni i dreblu gwerth cronfa gymunedol i £18.8 miliwn.

Mae cwmni RWE npower yn bwriadu codi 50 o dyrbinau gwynt 137 metr (450 troedfedd) o uchder yng Ngharnedd Wen, ger Llanbrynmair.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno yn 2008, ond yn ôl y cwmni, mae cyfradd y farchnad wedi cynyddu ers hynny.

Byddai'r arian ar gael yn ystod oes y cynllun, sef 20 mlynedd.

Buddiannau cymunedol

Gallai nifer o gymunedau bychain elwa o'r arian drwy brosiectau trafnidiaeth, clybiau ieuenctid a phrosiectau cymunedol eraill.

Mae gwrthwynebiad i ffermydd gwynt wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.

Ond nid dyna'r rheswm am gynyddu'r gronfa gymunedol o £6.5 miliwn i rhwng £12.5 miliwn a £18.8 miliwn yn ôl RWE npower.

Maen nhw'n honni bod "cyfradd y farchnad" ar gyfer buddiannau cymunedol wedi cynyddu o £2,000 y Megawat (MW) bob blwyddyn, pan gyflwynwyd cynllun Carnedd Wen yn 2008, i £5,000 y MW yn awr.

Dywedodd y cwmni pe bai'r cynllun i godi fferm wynt ger Llanbrynmair yn cael ei gymeradwyo gallai'r tyrbinau gynhyrchu hyd at 150 MW bob blwyddyn a byddai hyn yn sicrhau bod y gronfa yn werth £18.8m dros 20 mlynedd.

Dywedodd Kathryn Harries o RWE npower renewables: "Rydyn ni wedi bod yn creu cronfeydd lleol i sicrhau bod cymunedau yn elwa o fod yn gartref i gynlluniau ynni adnewyddadwy ers 15 mlynedd.

"Fe wnaethon ni fuddsoddi dros £313,000 mewn cymunedau lleol ar draws Cymru yn 2011."

'Grwpiau lleol'

Dywed y cwmni y byddai cymunedau yn agos i'r fferm wynt, gan gynnwys y rheiny sydd ar lwybr drafnidiaeth y datblygiad, yn dal i elwa o'r arian a glustnodwyd ar gyfer y cynllun yn wreiddiol.

Byddai'r arian ychwanegol yn cefnogi cynlluniau datblygu economaidd.

Dywedodd cynghorydd sir Cyngor Powys, Bob Morgan: "Rwy'n aelod o Gyngor Cymuned Llanbrynmair ac mae'r cyngor hwnnw wedi sefydlu cronfa ymddiriedolaeth i rannu'r arian rydyn ni wedi derbyn o brosiectau ffermydd gwynt eraill.

"Pe bai unrhyw gynlluniau eraill yn dod i'r fei fe fyddwn ni'n gallu delio â'r sefyllfa honno.

"Yn ystod y 12 mis diwethaf mae'r gronfa ymddiriedolaeth wedi rhoi £20,000 i nifer o achosion da, gan gynnwys grwpiau lleol, yr ysgol gynradd a nifer o unigolion."

Mae gwrthwynebiad i ffermydd gwynt wedi cynyddu ym Mhowys ers i'r Grid Cenedlaethol gyhoeddi eu bod am adeiladu is-orsaf ar safle 19 erw yn Aber-miwl, ger Y Drenewydd neu yng Nghefn Coch ger Llanfair Caereinion.

Mae'r Grid Cenedlaethol yn honni bod angen uwchraddio'r rhwydwaith trawsyriant i ddelio â'r cyflenwad uwch o drydan fydd yn cael ei greu gan genhedlaeth newydd o dyrbinau gwynt.

Eisoes mae tua 200 o dyrbinau gwynt wedi'u codi ym Mhowys ac mae adroddiadau y gallai 600 arall gael eu codi yn y dyfodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol