Gwaith yn dechrau ar un o ffermydd gwynt mwyaf Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Fferm wynt Gwastadeddau Y RhylFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm wynt Gwastadeddau Y Rhyl eisoes yn weithredol

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau i adeiladu fferm wynt enfawr oddi ar arfordir Llandudno.

Hon fydd un o ffermydd gwynt mwyaf Ewrop, gyda hyd at 160 o dyrbinau gwynt yn cael eu gosod 13 chilometr oddi ar yr arfordir.

Bydd yn cynhyrchu 576MW o drydan, digon o ynni i gyflenwi 400,000 o dai.

Y gorchwyl cyntaf fydd gosod darnau o gerrig maint dwrn ar ddarnau mwyaf meddal gwely'r môr gan sicrhau sylfeini tua 70 tyrbin.

Ni fydd angen gwarchod y 90 tyrbin arall â cherrig o'r fath am y byddan nhw'n cael eu gosod mewn gwaddod gwely'r môr mwy sefydlog.

'Carreg filltir'

Bydd y cerrig o ogledd orllewin Lloegr yn cael eu cludo ar gychod i Fae Lerpwl o Barrow-in-Furness yn Cumbria.

Dywedodd Toby Edmonds, rheolwr prosiect datblygwyr y cynllun, RWE npower renewables: "Mae dechrau'r gwaith alltraeth yn garreg filltir bwysig o ran adeiladu Gwynt y Môr.

"Bydd y cyfnod alltraeth hwn yn cymryd mwy na dwy flynedd i'w gyflawni ac fe ddylai'r gwaith fod wedi'i orffen erbyn canol 2014."

Bydd yr 11 safle sylfaen yn cael eu gwarchod gan gerrig yn ystod cyfnod o bythefnos ym mis Ionawr a mis Chwefror.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad gyda chyrff statudol.

Mae'r gwaith at y tir eisoes wedi dechrau gan gynnwys gwaith sylfaen ar gyfer is-orsaf ger Llanelwy fydd yn cysylltu'r fferm wynt i'r Grid Cenedlaethol.

Cysylltir yr is-orsaf â'r fferm wynt drwy saith milltir (11 cilometr) o geblau tanddaearol rhwng Pensarn a Pharc Busnes Llanelwy.

Mae 'na ymgynghoriad gyda thrigolion lleol er mwyn canfod sut mae cymunedau gogledd Cymru am wario arian a ddaw yn sgil codi'r fferm wynt, fydd yn bodoli am 25 mlynedd.

Bydd tua £19m - £768,000 bob blwyddyn - ar gael pan fydd Gwynt y Môr yn cynhyrchu i'w llawn botensial erbyn 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol