Verheijen yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Gary Speed a Raymond VerheijenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Raymond Verheijen (dde) oedd dirprwy Gary Speed gyda thîm Cymru

Mae'r hyfforddwr Raymond Verheijen wedi ymddiswyddo o'i ddyletswyddau gyda thîm pêl-droed Cymru gan gyhuddo Cymdeithas Bêl-droed Cymru o chwarae "gemau gwleidyddol a dinistriol."

Cafodd y dyn di-flewyn-ar-dafod ei benodi yn ddirprwy reolwr gan Gary Speed, cyn reolwr Cymru.

Mae Cymru wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf.

Ond bu ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Verheijen yn dilyn marwolaeth Speed.

Mae rheolwr newydd Cymru, Chris Coleman, wedi cynnal trafodaethau gyda Verheijen ac Osian Roberts.

Roberts a Verheijen oedd i fod yn gyfrifol am y tîm cenedlaethol yn y gêm gyfeillgar er cof am Gary Speed yn erbyn Costa Rica ddydd Mercher.

Roedd Roberts wedi dweud eu bod yn obeithiol y byddai'r tri ohonynt, ynghyd â'r dirprwy reolwr newydd Kit Symons yn gallu cyd-weithio gyda'i gilydd.

Twitter

Ddydd Gwener ar wefan Twitter dywedodd Verheijen: "Yn gynharach heddiw fe roddais wybod i Gymdeithas Bêl-droed Cymru y byddaf yn ymddiswyddo. Cael digon o'u gemau gwleidyddol a dinistriol. Diwrnod trist iawn.

"Y tîm oedd yr un wnaeth ddangos y gwelliant mwyaf o holl dimau FIFA yn 2011 ac rwy'n falch o fod yn rhan o hynny.

"Rwyf am ddiolch i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr am siwrne anhygoel".

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mai gyda siom yr oeddynt yn derbyn ymddiswyddiad Verheijen cyn y gêm yn erbyn Costa Rica.

"Yng ngoleuni'r gêm ddydd Mercher, a sensitifrwydd yr amgylchiadau, dyw'r Gymdeithas ddim am wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

"Rydym yn diolch i Raymond am ei waith dros y 12 mis diwethaf, ac yn dymuno'n dda iddo yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol