Cyn ymosodwr Cymru'n ffafrio Giggs fel rheolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae enw Ryan Giggs wedi'i gysylltu â swydd rheolwr Cymru yn y gorffennol

Mae cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, yn credu mai Ryan Giggs fyddai'r unig ddewis amlwg i olynu Gary Speed fel rheolwr y tîm cenedlaethol.

Ond mae'n dweud na ddylai unrhyw benderfyniad gael ei wneud tan y flwyddyn nesa', gan nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers marwolaeth Speed ar Dachwedd 27.

Daw ei sylwadau ddyddiau wedi i hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Raymond Verheijen, ddweud ar wefan Twitter ei fod yn obeithiol y byddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n parchu dymuniad Speed mai fo ac Osian Roberts ddylai arwain y tîm yn y nod o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil.

Ond cadarnhaodd y gymdeithas nad oedd y mater ar yr agenda yn eu cyfarfod ddydd Llun diwetha'.

Er bod Verheijen wedi dweud wrth BBC Cymru na wnaeth o ddweud ei fod o eisiau swydd rheolwr Cymru, mae ei sylwadau wedi codi gwrychyn rhai.

Ond yn ôl Malcolm Allen, bydd rhaid trafod y mater maes o law.

Mis Chwefror

"Mae'n gyfnod trist ac annifyr i bawb dwi'n meddwl hefo beth sydd wedi digwydd. Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi delio hefo fo'n hollol broffesiynol ar y funud, does dim cwestiwn am hynny - oherwydd mae'n golled i ni gyd, beth sydd wedi digwydd," meddai.

"Ond dwi'n dweud, ar ôl y Nadolig, rhyw chwe wythnos cyn y gêm nesa' ym mis Chwefror, mae'n rhaid i ni benodi rhywun.

"Yr unig ddyn, yn fy marn i, fyddai'n ffitio mewn ac yn cario 'mlaen hefo'r gwaith da mae Gary wedi'i wneud ydy Ryan Giggs, a gobeithio mai fo gaiff y cynnig".

Mae enw Giggs wedi'i gysylltu yn y gorffennol gyda swydd rheolwr Cymru, ond mae Malcolm Allen yn teimlo mai nawr yw'r amser priodol iddo dderbyn y rôl.

"Mae o'n dod i ddiwedd ei yrfa, felly mae'n rhaid iddo fo feddwl beth mae o'n mynd i wneud nesa'. Dwi'n siŵr bydda' Manchester United yn licio'i gadw fo yna, a rhoi rhyw fath o rôl arall iddo fo. Ond yn sicr, mae wedi gwneud ei feddwl i fyny, mae o eisiau bod yn rheolwr - a pham na chaiff o ddechrau hefo Cymru?

'Perffaith'

Gary SpeedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gary Speed yn rheolwr uchel iawn ei barch

"Does 'na ddim amser gwell iddo fo ddod i mewn fel rheolwr Cymru a chadw pob dim arall fel y mae o, a chadw'r momentwm i fynd," ychwanegodd.

Ond mae Allen yn cydnabod y byddai'n her fawr i Giggs lenwi esgidiau'r cyn rheolwr.

"Fedra' ni ddim cymharu gyda'r parch gafodd Gary gan y chwaraewyr a'r ffordd yr oedden ni'n mynd gyda Gary," meddai.

"Fydda' fo ddim yn iawn, chwaith, i gymharu. Felly mi fydda' Ryan yn dod i mewn hefo'i syniadau ei hun.

"Ond mae o hefyd yn gwybod beth sydd ganddo fo - y parch, wrth gwrs, gan bawb, fel oedd ganddyn nhw at Gary Speed. Felly mae hynny'n ddechrau da iddo fo beth bynnag.

"Mae Ryan yn debyg i Gary Speed o ran cymeriad hefyd, felly dwi'n meddwl y bydda' fo'n berffaith i ddod i mewn."

Bydd gêm gynta' Cymru yn y gemau rhagbrofol gartref yn erbyn Gwlad Belg ar Fedi 7, 2012.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol