£600,000 o iawndal i Church
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores Charlotte Church a'i rhieni wedi derbyn £600,000 mewn iawndal gan gyhoeddwyr papur newydd y News of the World, ar ôl i newyddiadurwyr glustfeinio ar ei negeseuon ffôn.
Yr wythnos ddiwetha' cyhoeddodd cyfreithwyr ar ran y berfformwraig 25 oed a'i rhieni, James a Maria Church, fod y teulu wedi dod i gytundeb gyda'r cyhoeddwyr, News Group Newspapers (NGN).
Roedd y Gymraes yn bresennol yn yr Uchel Lys yn Llundain ar gyfer y cyhoeddiad, sy'n benllanw ar ei honiadau fod newyddiadurwyr wedi gwrando ar negeseuon ffôn cyn ysgrifennu 33 o erthyglau yn y papur newydd.
Clywodd y gwrandawiad llys mai 16 oed oedd y gantores o Gaerdydd pan ddigwyddodd y clustfeinio am y tro cyntaf.
Wedi'r cyhoeddiad am y setliad ddydd Llun, dywedodd Miss Church bod yr hyn oedd hi wedi'i ddarganfod yn ystod ei hachos yn erbyn y cyhoeddwyr papur newydd wedi ei "ffieiddio a gwneud iddi deimlo'n sâl".
'Diwrnod pwysig'
Mewn datganiad y tu allan i'r Uchel Lys dywedodd y gantores na fyddai'r arian "fyth yn gallu gwneud yn iawn" am yr hyn a ddioddefodd hi a'i theulu ond dywedodd y byddai'n defnyddio'r iawndal i atal pobl rhag ymyrryd â'i phreifatrwydd hi a'i phlant yn y dyfodol.
Meddai: "Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig i mi a fy nheulu. Fe wnes i ddwyn yr achos iawndal yma gyda fy rhieni, fel llawer un arall, am fyd mod eisiau gwybod y gwirionedd am beth oedd y grŵp papur newydd yma wedi'i wneud i ddod o hyd i straeon am fy nheulu.
"Mae'r hyn rwyf wedi ei ddarganfod yn ystod yr achos wedi fy ffieiddio ac yn gwneud i mi deimlo'n sâl.
"Roedd pob ffin yn cael ei gwthio wrth iddyn nhw fynd ar fy ôl i a fy nheulu, a hynny dim ond i wneud elw i'r grŵp."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011