Mind Cymru yn lansio straeon digidol newydd arlein

  • Cyhoeddwyd
Merch yn diodde' o iselderFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r straeon yn dangos profiadau pobl â phroblemau iechyd meddwl

Mae'r elusen iechyd meddyliol Mind Cymru wedi lansio pedair stori ddigidol newydd arlein.

Mae'r straeon yn dangos profiadau pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n byw yng ngogledd, de a gorllewin Cymru.

Mynychodd nifer o bobl gwrs adrodd straeon digidol gan ddysgu sut i ysgrifennu sgript yn sôn am eu profiadau, creu ffilm a'i golygu.

Dywedodd Ellie, sydd wedi creu straeon yn Saesneg a Chymraeg ar gyfer y prosiect:

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y gwnes i greu'r stori ddigidol hon ar ôl i fy iechyd meddwl lithro'n ôl i gyflwr gwaeth nag yr oeddwn i wedi'i brofi erioed o'r blaen.

"Gwnaeth anogaeth a chyfeillgarwch y bobl y bues i'n cydweithio â nhw ar y prosiect straeon digidol f'ysgogi i gario 'mlaen yn ystod cyfnod tywyll iawn."

Dywedodd Lindsay Foyster, cyfarwyddwr Mind Cymru: "Mae pobl gyda phroblemau iechyd meddyliol yn dal i wynebu anffafriaeth fawr.

"Mae'r straeon digidol yn galluogi pobl rhoi eu hochr nhw o'r stori a herio ystrydebau niweidiol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol