Penodi cynghorydd i helpu cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi penodi Syr Deian Hopkin yn gynghorydd arbenigol ar gyfer cynnal gweithgareddau i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd Syr Deian yn cynnig cyngor ar y ffordd orau o gofio'r rhyfel ac ennyn diddordeb pobl Cymru.
Wrth siarad yn ei gynhadledd fisol i'r wasg, pwysleisiodd y Prif Weinidog pa mor bwysig yw hi bod y genedl yn cofio aberth y rheini a wasanaethodd yn y rhyfel.
Dywedodd: "Gwelir y Rhyfel Byd Cyntaf gan lawer fel un o'r rhyfeloedd mwyaf marwol yn hanes y ddynoliaeth, gyda miliynau o bobl, yn filwyr ac yn bobl gyffredin, yn colli eu bywydau.
'Ennyn diddordeb'
"Wrth inni nesáu at Ganmlwyddiant y rhyfel, dwi'n teimlo ei bod yn hynod o bwysig cofio'r rheini a fu farw, a chofio hefyd sut y newidiodd Gymru a'r byd am byth yn ei sgil.
"Rydym bellach wedi colli'r ddolen fyw olaf â'r rhyfel, gan nad yw'r cyn-filwyr a wasanaethodd ynddo gyda ni bellach, ond mae'n ddyletswydd arnom gofio eu dioddef enbyd.
"Bydd meddwl am y Rhyfel Byd Cyntaf yn ein helpu i ddeall y gorffennol, a bydd hefyd yn ein helpu i ddeall y rhyfeloedd sy'n digwydd ledled y byd heddiw.
"Er mwyn coffáu digwyddiad mor arwyddocaol â hwn, dw i'n falch o gael cyhoeddi y bydd Syr Deian Hopkin yn ysgwyddo'r rôl o gynghorydd arbenigol ar gyfer cynnal y gweithgareddau i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf."
"Cynhelir digwyddiadau a seremonïau yng Nghymru a thu hwnt, a bydd Syr Deian yn gallu ein cynghori ar y ffordd orau o gofio'r rhyfel ac ennyn diddordeb pobl Cymru.
"Mae'n hanesydd uchel ei barch sy'n awdurdod ar yr ugeinfed ganrif gynnar."
'Nodi'r digwyddiad'
Bydd Syr Deian yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i'w cynnal rhwng 2014 a 2018.
Dywedodd Syr Deian Hopkin: "Mae canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 heb os nac oni bai yn ganmlwyddiant ingol a phwysig.
"Ni chafodd unrhyw deulu na chymuned ddianc rhag effeithiau'r rhyfel hwnnw a arweiniodd at newidiadau enfawr i wleidyddiaeth, cymdeithas a'r economi.
"Dw i mor falch bod y Prif Weinidog wedi gofyn imi helpu i lunio ffordd briodol o nodi'r digwyddiad hwn, er mwyn inni allu dod i ddeall yn well beth achosodd y rhyfel hwn a'r gwersi y gallwn ni eu dysgu."
Roedd Syr Deian, a anwyd yn Llanelli, yn Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank yn Llundain hyd ei ymddeoliad yn 2009.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant Llanelli a Choleg Llanymddyfri.
Enillodd radd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu'n addysgu yno am 24 o flynyddoedd gan gynnwys cael ei benodi yn Bennaeth yr Adran Addysgu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Cafodd Syr Deian ei benodi'n Llywydd Y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Tachwedd y llynedd ar ôl i'r Arglwydd Dafydd Wigley o Gaernarfon benderfynu peidio â cheisio cael ei ailbenodi am ail dymor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2011