Carcharu dau am 'gam-drin ofnadwy'
- Cyhoeddwyd
Cafodd mam bachgen tair oed a'i phartner eu carcharu oherwydd "cam-drin ofnadwy".
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Lisa Brooks, 25 oed, a Tomas Rhys Lewis, 22 oed, wedi cadw'r bachgen mewn "amgylchiadau ofnadwy".
Cafodd Brooks dair blynedd o garchar a Lewis dair blynedd a hanner.
Dywedodd yr heddlu fod trychineb wedi ei hosgoi wedi esgeulustod "dychrynllyd" yn eu cartre yn Nhref-ddyn ger Pont-y-pŵl.
Clywodd y llys bod cyflwr y bachgen mor ddifrifol ei fod wedi ceisio bwyta ei wallt, oherwydd ei fod e mor llwglyd.
Rhagfyr 2010
Daeth gweithwyr cymdeithasol a'r heddlu o hyd i'r bachgen yn y tŷ yn Nhorfaen ddechrau fis Rhagfyr 2010.
Clywodd y llys fod y bachgen yn cael ei gadw, dan-glo, mewn ystafell wely oedd yn fwy tebyg i gell. Doedd dim golau yn yr ystafell ac er ei bod hi'n bwrw eira tu allan pan ddaeth gweithwyr cymdeithasol o hyd iddo, doedd 'na ddim gwres yn yr ystafell chwaith.
Roedd ganddo anafiadau ar hyd ei gorff: cleisiau ar ei freichiau am ei fod yn cael ei glymu i'w wely; roedd ganddo ddwy lygad ddu, ac roedd mor llwglyd ei fod wedi rhwygo'i wallt allan o'i wreiddiau ac wedi ceisio ei fwyta.
Roedd yn dioddef o hypothermia a diffyg hylif. Yn ôl nyrs roddodd driniaeth iddo yn Ysbyty Nevill Hall, petai wedi cyrraedd oriau yn ddiweddarach fe fyddai wedi marw.
Enwi'r ddau
Penderfynodd y barnwr bod y cyfryngau yn cael enwi'r ddau fu'n ei gam-drin, a hynny am fod y bachgen bellach wedi cael ei fabwysiadu.
Dywedodd Lisa Brooks a Tomas Rhys Lewis wrth yr heddlu eu bod nhw wedi rhoi'r bachgen yn yr ystafell, am ei fod yn anafu ei hun yn aml, a'u bod nhw'n poeni y byddai'n brifo'u babi hefyd.
Roedd un o'r cyfreithwyr yn dadlau nad oedd y pâr yn gallu ymdopi, ond plediodd y ddau yn euog i esgeuluso plentyn, a disgrifiodd y barnwr eu gweithredoedd fel rhai sadistaidd.
Bydd yn rhaid iddyn nhw dreulio hanner y cyfnod o dan glo cyn y byddan nhw'n cael gwneud cais am barôl.
Cyhoedd
Aelod o'r cyhoedd ffoniodd y gwasanaethau cymdeithasol i ddatgan eu pryderon ynglŷn â'r plentyn.
Mae Heddlu Gwent wedi dweud bod gwaith sawl asiantaeth wedi sicrhau fod y plentyn dal yn fyw. Maen nhw wedi croesawu hyd y dedfrydau.
Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Cyngor Torfaen wedi cynnal ymchwiliad i'r achos, ac er nad ydi'r adroddiad llawn wedi cael ei ryddhau, mae'r cyngor yn mynnu bod sawl asiantaeth wedi dechrau'r gwaith o weithredu nifer o argymhellion sydd yn yr adroddiad.
Mewn datganiad mae'r elusen NSPCC Cymru wedi dweud nad ydy'r achos yn unigryw, a'u bod nhw'n "erfyn ar unrhyw un sy'n amau fod plentyn yn cael ei gam-drin i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, neu'r NSPCC".