'Y dyn â'r llais cyfoethog'

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor Philip Madoc wedi marw yn 77 oed wedi salwch byr.

Yn enedigol o Ferthyr Tudful, fe fydd yn cael ei gofio'n bennaf am ei bortread o'r gwleidydd David Lloyd George yn y gyfres deledu, The Life and Times of David Lloyd George.

Cyn hynny daeth i amlygrwydd mewn cyfresi teledu fel Manhunt a Last Of The Mohicans yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au.

Roedd yn enwog am ei lais cyfoethog ac oherwydd hwnnw roedd yn enwog am waith actio ar y radio.

Cafodd glod arbennig am ei waith ym mhrif ran cynhyrchiad BBC Radio 3 o King Lear.

Bu'n gweithio yn y Gymraeg ac yn cael ei gofio am ei rôl yn nrama S4C, Noson Yr Heliwr.

Bu'n sâl ers mis Ionawr a bu farw fore Llun mewn ysbyty yn Sir Hertford.

Mae'r actor, a fu yn briod ar un adeg â'r actores Ruth Madoc, yn gadael mab a merch a nifer o wyrion a wyresau.

Teyrngedau

Roedd ei blant, Rhys a Lowri, ynghyd ag aelodau eraill o'i deulu gydag ef yn yr ysbyty pan fu farw.

Mewn datganiad dywedodd y teulu: "Fe fydd colled fawr ar ei ôl gan ei fab, ei ferch a'i wyrion a wyresau.

"Er ei fod wedi diodde' o ganser, mae'r teulu yn ddiolchgar iawn am y gofal a gafodd gan staff Hosbis Michael Sobell yn Northwood.

"Bu farw'n dawel yn ei gwsg am 9am fore Llun."

Dywedodd ei gyn-wraig, Ruth Madoc, ei bod yn ymwybodol ers tro nad oedd mewn iechyd da.

"Rwyf wedi ei nabod ers oeddwn yn 17 oed ac fe briodon ni pan oeddwn yn 19," meddai.

"Roedd gennym ddau o blant a phump o wyrion a wyresau.

"Roeddwn yn ei gwrdd yn rheolaidd ac roedd cariad at y teulu a chariad at y busnes actio yn ein cysylltu.

"Mae gen i atgofion melys iawn o Philip. Roedd yn actor mor dalentog, ac roedd ganddo'r llais gwych yna."

'Cyfaill i Gymru'

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, bod Philip Madoc yn un o "actorion mwya' blaenllaw" ei genhedlaeth.

"Roedd yn ŵr â thalent ryfeddol a fydd yn cael ei gofio gan filoedd am ei ran yn The Life and Times of David Lloyd George.

"Mae'n gadael cyfoeth o waith - mewn drama a chomedi - a bydd colled enfawr ar ei ôl."

Daeth teyrngedau gan wleidyddion iddo yn ystod y dydd.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Philip Madoc fel David Lloyd George

Dywedodd Aelod Cynulliad Merthyr, a Gweinidog Treftadaeth Cymru, Huw Lewis, ar ei wefan Twitter: "Newyddion trist iawn am Philip Madoc a fu farw. Actor dawnus iawn a fu'n diddanu'r genedl."

Disgrifiodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, Madoc fel "cyfaill mynwesol i Gymru".

"Bob tro yr oeddwn yn ei gwrdd, roedd yn frwdfrydig iawn am botensial Cymru fel cenedl," meddai.

Dywedodd y diddanwr Wyn Calvin ei fod wedi bod yn gyfaill iddo ers 50 mlynedd.

"Roedd yn sgwrsiwr heb ei ail ac yn ddyn deallus iawn oedd yn siarad nifer o ieithoedd yn rhugl," meddai.

"Y ddau beth y bydd pobl yn cofio amdano fydd chwarae rhan Lloyd George, a'r llinell "Don't tell him, Pike" o gyfres Dad's Army (er nad Madoc ddywedodd y llinell!).

"Mae'n wych cael eich cofio am rywbeth mor ddifrifol â rhywbeth mor ddoniol."

Llwyfan

Aeth yr actor i Brifysgol Cymru a Phrifysgol Fienna i astudio ieithoedd cyn gweithio fel cyfieithydd.

Yn ogystal â'i waith ar y sgrin, bydd hefyd yn cael ei gofio am ei waith mewn theatrau, yn enwedig y Royal Shakespeare Company yn Llundain lle bu'n chwarae rhannu nodedig fel Iago yn Othello ac Anthony yn Anthony and Cleopatra.

Ymysg ei ffilmiau mae The Spy Who Came In From The Cold, The Quiller Memorandum ac Operation Daybreak.

Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Morgannwg, ac roedd yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.