Philip Madoc: Ei yrfa mewn llunCyhoeddwyd5 Mawrth 2012Disgrifiad o’r llun, Cafodd Philip Madoc ei eni ym Merthyr Tudful a bu farw yn 77 oed mewn ysbyty yn Lloegr wedi salwch byrDisgrifiad o’r llun, Un o'i ymddangosiadau teledu cynnar oedd fel Von Koren mewn cynhyrchiad o ddrama Chekhov, The Duel, a ddarlledwyd ar deledu'r BBC yn 1963Disgrifiad o’r llun, Ymddangosodd hefyd yn y gyfres gomedi Dad's Army fel un o gapteiniaid Yr Almaen gyda'i ddeialog yn arwain at y llinell enwog "Don't tell him, Pike!" gan Captain Mainwaring (Arthur Lowe).Disgrifiad o’r llun, Mewn rhaglen arbennig yn edrych yn ôl ar Dad's Army fe ddaeth Philip Madoc wyneb yn wyneb gyda Private Pike (Ian Lavender) yn 2008Disgrifiad o’r llun, Ymddangosodd yn Doctor Who gan chwarae un o'r arglwyddi rhyfel mewn rhaglen yn 1969Disgrifiad o’r llun, Ymddangosodd bedair gwaith yng nghyfres Doctor Who gan gynnwys y bennod yma yn 1976 "The Brain of Morbius"Disgrifiad o’r llun, Un o'i gymeriadau enwoca' oedd Magua yng nghynhyrchiad y BBC yn 1971 The Last of the MohicansDisgrifiad o’r llun, Un o'i weithiau enwoca’ oedd portreadu David Lloyd George yn The Life and Times of David Lloyd George yn 1979Disgrifiad o’r llun, Philip Madoc fel Geoffrey o Fynwy yn un o addasiadau Peter Ackroyds o raglenni dogfen hanesyddolDisgrifiad o’r llun, Philip Madoc gyda Margaret John a Ryan Davies yn Tu Hwnt I'r BontStraeon perthnasol'Y dyn â'r llais cyfoethog'Cyhoeddwyd5 Mawrth 2012