Google yn cynorthwyo busnesau i gael presenoldeb ar y we
- Cyhoeddwyd
Mae gwefan Google yn ceisio annog mwy o fusnesau Cymru i fynd ar-lein.
Yn ôl y ffigyrau diweddara, does gan 40% o gwmnïau bach Cymru ddim gwefan.
Mae ffigyrau hefyd yn nodi nad oes gan 33% o fusnesau Cymru fynediad i werthu nwyddau a gwasanaethau ar y we, o'i gymharu â 39% ar gyfartaledd yn y DU.
Dywed Edwina Hart, Gweiniodg Busnes Cymru, bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda Google er mwyn cynorthwyo busnesau bach i "gyrraedd marchnad newydd".
Mae'r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Fe fydd Ms Hart, a Dan Cobley, rheolwr gyfarwyddwr Google UK, yn annerch tua 400 o bobl mewn cynhadledd arbennig er mwyn annog busnesau i fynd ar-lein.
Hyfforddiant
"Gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill rydym am i fusnesau Cymru, o unrhyw faint, ddeall pwysigrwydd y we a pha mor hawdd yw mynd ar-lein a chyfrannu i dwf economaidd Cymru," meddai Mr Cobley.
Bwriad Google yw hyfforddi asiantaethau digidol ar draws Cymru er mwyn cynnig hyfforddiant a gweithdai ar ddiwedd yr ymgyrch dri mis.
Fe fydd y gwasanaeth yn cynnig archwiliadau un-wrth-un, gweithdai a gwybodaeth i berchnogion busnesau bach a fydd yn cynnwys sut i gael presenoldeb ar y we neu wella'r hyn sydd ganddyn nhw eisoes.
Yn ôl Ms Hart, mae gan fusnesau bach a chanolig eu maint y potensial i fod yn rhan o adfywio'r economi.
"Drwy gydweithio gyda Google ar y cynllun yma fe fyddwn ni'n cynorthwyo ac yn addysgu nifer o fusnesau bach i gael y gefnogaeth a gwybodaeth angenrheidiol i gyrraedd marchnadoedd newydd a chwsmeriaid ar draws y DU a thu hwnt."
Fe fydd y cyfarfod cyntaf yn Y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, Mawrth 6 rhwng 4pm a 9pm.
Bydd cyfarfodydd eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012