Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys i ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Ian ArundaleFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ian Arundale ei benodi yn 2008

Bydd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Ian Arundale, yn ymddeol ym mis Mehefin.

Dywedodd yr awdurdod heddlu, sydd wedi bod yn yr heddlu am 32 o flynyddoedd, yn "unigolyn galluog"

Cafodd ei benodi'n brif gwnstabl yn 2008 wrth olynu Terry Grange.

Cyn hynny roedd wedi bod yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu West Mercia ond dechreuodd ei yrfa yn Heddlu De Cymru.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn wynebu heriau ariannol sylweddol - rhaid iddyn nhw wneud arbedion o £34 miliwn erbyn 2015 a £13m yn flynyddol wedi hynny.

Dywedodd cadeirydd yr awdurdod, Delyth Humfryes, fod Mr Arundale, er gwaetha'r heriau, wedi arwain "un o heddluoedd gorau'r DU".

Heriol

Dywedodd Mr Arundale mai'r pedair blynedd ddiwethaf oedd y rhai mwyaf heriol a'r rhai oedd wedi rhoi'r boddhad mwyaf.

"Yn ystod y cyfnod mae'r llu wedi gweld newidiadau sylweddol yn eu strwythur a dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau," meddai.

"Mae'r perfformiad wedi bod yn rhagorol er gwaetha'r aflonyddwch oherwydd yr angen i dynnu £13m o'n cyllideb.

"Bu llwyddiannau mawr - yr un mwyaf nodedig efallai oedd erlyn y llofrudd John William Cooper."

'Dymuno'r gorau'

Dywedodd Mrs Humfryes: "Ar ran aelodau'r awdurdod heddlu, hoffwn i ddymuno'r gorau i Ian ar gyfer y dyfodol."

Yn ogystal â gradd BA Astudiaethau'r Heddlu o Brifysgol Morgannwg mae ganddo radd MSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol o Brifysgol Caerdydd.

Bu hefyd yn astudio Cyfraith a Threfn mewn amryw o leoedd yn yr Unol Daleithiau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol