Bandio: Arian ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Leighton AndrewsFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Leighton Andrews: 'Helpu'r ysgolion sydd angen cymorth'

Bydd ysgolion uwchradd yn y bandiau isaf yn derbyn mwy o arian er mwyn gwella eu safonau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai 75 o ysgolion ym Mand 4 a 5 yn derbyn £10,000 yr un y flwyddyn ariannol nesa.

Cyn derbyn yr arian bydd rhaid i ysgolion gyflwyno cynlluniau a thargedau er mwyn gwella perfformiad.

Mae ysgolion uwchradd yng Nghymru mewn pum band wedi eu seilio ar berfformiad mewn arholiadau a phresenoldeb disgyblion.

'Yn werthfawr'

Mewn araith wrth arweinwyr addysg yng Nghaerdydd dywedodd Mr Andrews fod bandio wedi "profi'n werthfawr" wrth ddangos pa ysgolion oedd angen cymorth ychwanegol.

Mae Llywodraeth Cymru yn wfftio honiadau fod bandio yn cyfateb i dablau cynghrair ar gyfer ysgolion.

Cafodd y tablau eu dileu yn 2011.

Yn ei araith dywedodd Mr Andrews y byddai'n sefydlu panel athrawon a phrifathrawon fyddai'n rhoi cyngor iddo.

Bydd y panel yn cwrdd bod dau fis.

'Tangyllido'

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns: "Tra bod unrhyw gyllid ychwanegol i'w groesawu, mae £10,000 yn swm pitw a bach iawn fydd ei effaith ar y bwlch o £604 y pen rhwng disgyblion Cymru a Lloegr oherwydd tangyllido Llafur."

Yn ôl llefarydd ar addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, roedd yr arian yn annigonol tra bod y polisi o fandio yn annheg.

"Ni allaf ddeall beth mae disgwyl i ysgolion gyflawni gyda'r arian yma. Rwy'n amau y byddai cyrraedd y criteria sydd wedi ei osod yn costio gymaint â'r arian sy'n cael ei gynnig.

"Mae'r arian ymhell o'r hyn sydd ei angen ar gyfer ysgolion yn y bandiau isaf."

Wrth gyfeirio at y bwlch rhwng disgyblion Cymru a Lloegr, dywedodd Owen Hathway o undeb yr NUT: "Fydd yr arian ddim yn datrys y broblem yn ei chyfanrwydd ac mae angen gwneud mwy ond mae'n gam cyntaf positif ac fe fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r ysgolion sy'n ei dderbyn."

Dywedodd llefarydd ar ran undeb y prifathrawon, yr NAHT, y byddai'r drafodaeth am fandio yn parhau "ond o leiaf mae rhyddhau arian ychwanegol yn golygu ein bod ar y trywydd cywir ynglŷn â beth yw ystyr cywir bandio, cefnogi yn ogystal â rhoi her i ysgolion sy'n derbyn yr arian."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol