Bandio: Eithrio ysgolion cynradd bach
- Cyhoeddwyd
Ni fydd tua 30% o ysgolion cynradd Cymru yn cael eu cynnwys yn y strwythur bandio newydd i fonitro perfformiad.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, nad fydd yn bosib cyflwyno mesurau cadarn i ysgolion bach.
Yn wahanol i dablau sy'n gwerthuso ysgolion o'r gorau i'r gwaethaf, mae'r strwythur yn mynd i osod ysgolion mewn pedwar neu bum band yn ddibynnol ar faint o gefnogaeth sydd ei angen.
Dywedodd y Gweinidog fod "heriau mwy" wrth geisio datblygu model i ysgolion cynradd nag uwchradd, yn bennaf oherwydd y nifer fawr o ysgolion pentref bach gyda 10 neu lai o ddisgyblion.
"Am y rheswm yma," meddai, "fe fyddaf yn eithrio'r ysgolion lleiaf o'r strwythur bandio."
Ymateb
Eisoes mae ymateb undebau athrawon wedi bod yn gymysg.
Dywedodd Dr Philip Dixon o undeb yr ATL y byddai'r undeb yn cefnogi'r cynllun pe bai'r Gweinidog yn cadw'i air i beidio enwi a chodi cywilydd ar ysgolion sy'n perfformio'n wael.
Ond dywedodd ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans, fod y ffaith nad yw ysgolion bach yn cael eu cynnwys yn dangos ei bod hi'n anodd canfod ffordd glir o fonitro ysgolion cynradd.
Dywedodd: "Ein barn ni yw na ddylid cynnwys ysgolion yn y strwythur bandio os ydyn nhw'n ysgolion cynradd neu uwchradd."
'Pryderon'
Bydd meini prawf ysgolion cynradd yn seiliedig ar asesiadau athrawon yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2.
Dywedodd Mr Andrews: "Rwy'n ymwybodol o bryderon am gysondeb yr asesiadau yma a'r broses safoni sy'n gysylltiedig â nhw.
"Dros y ddwy neu dair blynedd nesaf byddwn yn adolygu'r asesiadau ac yn cyflwyno profion darllen a rhifedd a fydd yn fwy cadarn."
Bydd bandiau ar gyfer ysgolion uwchradd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau nesaf, Rhagfyr 8.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011