'Trawsnewid' gofal cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion newydd i ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r cynigion, medd y llywodraeth, yn cynnwys rhoi mwy o reolaeth i bobl dros y gofal y maent yn ei dderbyn a mwy o hawl i ofyn am asesiad o'u hanghenion.
Lansiodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ymgynghoriad cyhoeddus ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), deddfwriaeth sy'n ceisio trawsnewid y ffordd o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Nod y Mesur arfaethedig yw rhoi mwy o ryddid i bobl benderfynu pa wasanaethau y mae eu hangen arnynt, ac ar yr un pryd cynnig gwasanaethau cyson o ansawdd da ledled y wlad.
Amcanion
Byddai'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn:-
Caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried ymestyn yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, a hynny drwy wneud taliadau uniongyrchol. Byddai hynny'n golygu bod gan bobl fwy o reolaeth dros y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.
Cyflwyno meini prawf cymhwysedd cenedlaethol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu yn ôl eu hanghenion, yn hytrach na mewn perthynas â'r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol.
Cyflwyno asesiadau symudol, sy'n golygu y bydd gan bobl yr hawl i gael gwasanaethau tebyg os byddant yn symud i rywle arall yng Nghymru, heb fod yn rhaid cael asesiad newydd o'u hanghenion os nad yw'r rheini wedi newid.
Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybodaeth i ofalwyr am eu hawliau a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn eu hardaloedd lleol.
Creu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol i wella canlyniadau lleoliadau plant.
Bydd camau hefyd i gryfhau rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn ategu'r newidiadau sydd wedi'u cyhoeddi eisoes i foderneiddio system gwyno'r gwasanaethau cymdeithasol.
'Pwerau newydd'
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chanolfan Dewis Byw'n Annibynnol ym Mhontypridd, sef mudiad gwirfoddol sy'n cefnogi hawl pobl anabl i ddatblygu eu ffordd o fyw annibynnol eu hunain.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Mae'r Mesur hwn yn enghraifft wych o sut rydyn ni'n defnyddio pwerau newydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.
"Dydyn ni ddim yn barod i eistedd yn ôl a gwneud dim, gan weld llai a llai o bobl yn llwyddo i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
"Bydd y Mesur yn ei gwneud yn orfodol i ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwasanaethau sy'n cynnal a gwella lles pobl mewn angen.
"Bydd mwy o ffocws ar wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, a bydd yn rhaid wrth fwy o weithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau o du'r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.
"Mae'n hanfodol bod defnyddwyr y gwasanaethau a'u gofalwyr yn rhan o'r broses, a rhaid i asesiadau ystyried y canlyniadau sydd yn bwysig iddyn nhw, yn hytrach na dim ond eu cymhwysedd i gael gwasanaeth penodol.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am dri mis, o Fawrth 12 hyd at Fehefin 1 2012.
Ymateb
Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan elusen Age Cymru, sydd wedi galw am i'r system gofal fod yn haws i'w ddeall fel bod y cyhoedd yn gwybod beth yw eu hawliau.
Eglurodd pennaeth polisi'r elusen, Graeme Francis: "Mae'r Mesur Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn gosod y llwyfan i bobl Cymru gael trafodaeth hanfodol ar sut y byddwn yn gofalu am rhai o bobl mwyaf bregus Cymru yn y dyfodol.
"Mae hwn yn gyfle i ddatgan yn glir beth all y cyhoedd ddisgwyl i gael o'r system, ac mae'n gyfle hefyd i adeiladu ar, a gwella, y gwasanaethau gofal sydd ar gael ar hyn o bryd, tra'n amddiffyn y gwasanaethau sy'n cael eu derbyn gan bobl anabl gydag anghenion gofal."
Meini prawf
Mae Age Cymru am i'r Mesur gyflwyno cyfres o feini prawf cymhwyster i'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn taclo anghysondebau yn y system bresennol.
Mae'r elusen hefyd yn galw am wasanaethau sy'n caniatáu i bobl gael cyfle i gael adferiad llwyr wedi salwch i fod ar gael drwy Gymru.
Ychwanegodd Mr Francis: "Ar y cyfan mae'r Mesur yn gyfle i ddarparu dull cyson o ddelio gyda gofal ar draws Cymru.
"Ond y manylion sy'n bwysig, ac fe ddylai unrhyw newidiadau sicrhau bod pobl sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd ddim yn cael eu gadael mewn sefyllfa waeth nag ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011