Gwasanaethau gofal cymdeithasol yn 'amrywiol,' medd adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Pobl oedrannusFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen rhagor o welliannau i wasanaethau gofal yng Nghymru

Mae ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru'n dal i amrywio'n fawr ac mae angen mwy o welliannau, yn ôl adroddiad.

Dywedodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru fod modd gwneud mwy i "ddarparu asesiadau a rheolaeth gofal safonol yn gyson" ar gyfer plant ac oedolion.

Ond mae adroddiad y prif weithredwr wedi dweud bod rhai gwelliannau wedi'u cyflwyno.

Mae gan staff gofal sgiliau a chymwysterau gwell ac maen nhw'n gwrando mwy ar eu cwsmeriaid, meddai'r adroddiad.

'Datblygiadau'

Yn ôl prif weithredwr yr arolygiaeth, Imelda Richardson: "Roedd 'na nifer o ddatblygiadau cadarnhaol yn 2010-11 mewn gwasanaethau a gofal cymdeithasol.

"Mae 'na groeso yn arbennig i ymdrechion cyson awdurdodau lleol i ddarparu a gwella gwasanaethau ond mae ansawdd gwasanaethau a gofal cymdeithasol yn parhau i amrywio'n fawr ar draws Cymru.

"Dyma ble mae angen mwy o welliannau - ble bynnag maen nhw'n byw, mae pobl yn haeddu gwasanaethau safonol diogel."

Dywedodd yr adroddiad fod rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn dal i boeni nad oedd 'na gysondeb o ran staff ac mae hefyd wedi tynnu sylw at restrau aros "sylweddol" rhai gwasanaethau i oedolion.

Yn ôl yr arolygiaeth, mae angen gwelliannau yn y gwasanaethau plant "er mwyn cefnogi gwasanaethau i blant mewn angen a gwell cefnogaeth o ran addysg i blant mewn gofal."

'Dirywio'

"Mae'n amlwg bod awdurdodau lleol a phartneriaid yn ceisio canolbwyntio adnoddau ar blant mewn gofal, sydd i'w weld yn nifer y gweithwyr cymdeithasol sy'n cael eu neilltuo, sydd i fyny o 91% yn 2008-9 i 94% yn 2010-11," meddai'r adroddiad.

"Ond mae asesiad a rheolaeth o wasanaethau gofal i blant yn dal i fod yn anghyson gydag ansawdd rheolaeth achosion yn dirywio ar ôl delio gyda'r pryderon cychwynnol.

"Yn ogystal mae 'na bryder mai dim ond 60% o blant mewn gofal gafodd gefnogaeth cynlluniau addysg yn 2010-11."

Ond cafodd gwelliannau gwasanaethau gofal eu canmol.

Roedd y rhain yn cynnwys cydweithio cynyddol rhwng awdurdodau lleol a gwasanaethau gofal cymdeithasol "i gyflwyno gwasanaethau arloesol a chynaliadwy".

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod y cartrefi gofal a gwasanaethau gofal yn y cartrefi gorau yn "cyfuno arweinyddiaeth dda gyda gweledigaeth a phwrpas clir, yn recriwtio staff lleol da ac yn edrych ar eu holau, yn ogystal â'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau."

Mae Ms Richardson wedi dweud: "Mae'r adroddiad yn cydnabod gwelliannau o fewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ogystal â'r gwelliannau hanfodol sydd angen eu gwneud eto."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol