Trafod dyfodol canolfan gelfyddydau
- Cyhoeddwyd
Mae trafodaethau yn cael eu cynnal ynglŷn â dyfodol canolfan gelfyddydau yng Ngwynedd.
Ar hyn o bryd mae Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli yn cael ei defnyddio fel theatr, sinema, gofod arddangos a chanolfan ddiwylliannol.
Roedd yr adeilad yn dathlu ei ganmlwyddiant y llynedd.
Mae Galeri Caernarfon wedi cyflwyno cynllun busnes yn amlinellu sut y bydden nhw'n gweinyddu'r ganolfan o Ebrill 2013.
Mae perchnogion yr adeilad, cyngor Gwynedd, yn dweud eu bod angen dod o hyd i "ffordd newydd greadigol" o gynnal yr adeilad fel rhan o arbedion gwerth £40m.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedd unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â sut y bydd y ganolfan ar Stryd Penlan yn cael ei gweinyddu.
Trafodaethau pellach
Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sydd eisoes yn berchen ar ganolfan Galeri yng Nghaernarfon.
"Mae'r cyngor o'r farn fod angen cynnal trafodaethau pellach cyn penderfynu'n derfynol a ddylid trosglwyddo rheolaeth y ganolfan o'r cyngor i Galeri," meddai'r llefarydd.
Ychwanegodd mai nod y cyngor oedd sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy i Neuadd Dwyfor yn yr hirdymor "ac ehangu'r dewis o gyfleoedd diwylliannol i drigolion lleol".
Fe agorodd y ganolfan yn 1911 fel sinema i ddangos ffilmiau di-sain.
Dywedodd y Cynghorydd Roy Owen, sy'n arwain ar dreftadaeth a'r celfyddydau ar Gyngor Gwynedd, fod y neuadd wedi bod yn ganolfan gelfyddydol boblogaidd ers dros ganrif.
'Seiliau cadarn'
"Fel cyngor, rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y ganolfan ar gael fel theatr, sinema, gofod arddangos a chanolfan gelfyddydol i'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd mai'r nod oedd sicrhau fod y neuadd yn gallu adeiladu ar seiliau cadarn a ffynnu fel canolfan gelfyddydol.
"Yn anffodus, oherwydd bod yn rhaid i'r cyngor arbed bron i £40m dros y blynyddoedd i ddod, mae'n golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffordd newydd o reoli'r ganolfan os am wireddu'r amcan hwn.
"Dyna pam ein bod yn cynnal trafodaethau manwl gyda Galeri i edrych ar y posibilrwydd o drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros reoli'r neuadd iddyn nhw, sefydliad sydd â phrofiad o gynnal canolfan debyg sy'n cynnig rhaglen eang o ddigwyddiadau celfyddydol."
Ebrill 2013
Mae'r cyngor wedi gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad yn ddiweddar, gan gynnwys gosod ffenestri newydd, nenfwd newydd yn yr awditoriwm, trwsio'r to a gosod offer newydd.
Dywedodd y cyngor y byddai is-gwmni Galeri yn cymryd cyfrifoldeb am y neuadd yn Ebrill 2013 os bydd trafodaethau yn "gadarnhaol".
Yn ôl llefarydd ar ran Galeri, maen nhw wedi bod yn trafod gyda'r cyngor ers misoedd.
"Rydym wedi cyflwyno cynllun busnes sy'n rhoi syniad o sut y byddai Galeri Caernarfon Cyf yn gweinyddu'r ganolfan.
"Mae'r cyngor yn edrych ar y cynllun ac mae'r trafodaethau'n parhau," ychwanegodd.