Cyhoeddi manylion ariannol saith safle Remploy
- Cyhoeddwyd
Bydd gweinidogion San Steffan yn cyhoeddi manylion ariannol ffatrïoedd Remploy fydd yn cau yng Nghymru, gan fygwth swyddi 272 o bobl anabl.
Dywedodd y Gweinidog dros Bobl Anabl, Maria Miller, ei bod yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weld a fyddai modd cadw unrhyw un o'r saith safle yn agored.
Ond mae wedi diystyru'r posibilrwydd o roi cymhorthdal pellach i'r ffatrïoedd.
Cafodd safleoedd Remploy eu sefydlu yn 1946 fel rhan o'r Wladwriaeth Les ac mae'r gweithwyr yn ofni na fyddan nhw'n gallu dod o hyd i swyddi newydd.
Mae'r gwaith yn amrywio o wneud dodrefn i ailgylchu offer trydanol.
Casgliadau
Ond mae'r rhan fwyaf o'u ffatrïoedd yn gwneud colled a'r wythnos ddiwethaf dywedodd Llywodraeth y DU y byddai saith safle yng Nghymru yn cau.
Yn dilyn cyfarfod gyda Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, dywedodd Ms Miller y byddai casgliadau astudiaeth cyfrifwyr KPMG yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Dywedodd ei fod yn barod i wrando ar syniadau am sut i gadw'r safleoedd yn agored.
Y saith safle dan fygythiad yw Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam.
Bydd y safleoedd yn y Y Porth yn y Rhondda a Chastell-nedd yn parhau yn agored.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012