Cynnydd yn nifer y di-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Roedd 1,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith yn ystod y tri mis diwethaf o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Roedd nifer y bobl oedd heb swydd rhwng mis Tachwedd a diwedd mis Ionawr wedi codi i 134,000, sy'n cyfateb i 9.1% o'r gweithlu.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol mai 8.4% yw graddfa ddiweithdra yn y DU.
Fis diwethaf roedd bron 80,000 o bobl yn hawlio lwfans ceisio gwaith, 700 yn fwy na'r cyfnod blaenorol.
'Ail-adeiladu'r economi'
Ond mae yna gynnydd o 21,000 wedi bod o ran pobl mewn gwaith ac mae nifer y rhai anweithredol yn economaidd wedi gostwng 14,000.
Trwy'r DU roedd nifer y di-waith wedi codi 28,000 i 2.67 miliwn yn y tri mis hyd at fis Ionawr.
Croesawodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y cyhoeddiad fod mwy'n gweithio.
"Hwn yw'r trydydd casgliad o ffigurau sy'n dangos bod yna gynnydd o ran pobl mewn gwaith yng Nghymru," meddai.
"Mae'r ffigurau'n dangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad iawn wrth inni geisio ail-adeiladu'r economi.
"Ond mae 'na lawer o waith i'w wneud oherwydd mai graddfa diweithdra o 9.1% yn dal yn annerbyniol o uchel.
"Mae'r ffigurau'n cadarnhau bod angen inni barhau gyda'n cynllun i greu'r amgylchiadau iawn gan fuddsoddi yn y rhwydwaith mewnol sydd ei angen i hybu twf yn y sector breifat ac i helpu busnesau i ffynnu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012