Cyhoeddi bod Llanelwy yn ddinas

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Gadeiriol LlanelwyFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Fe geisiodd Llanelwy - sydd ag eglwys gadeiriol eisoes - am statws dinas yn 2002 hefyd

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Llanelwy yn cael statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Cafodd Llanelwy ei dewis o flaen Wrecsam yng Nghymru, a bydd yn ymuno gyda Chelmsford (Lloegr) a Perth (Yr Alban) fel dinasoedd newydd.

Yn ogystal, bydd gan Armagh yng Ngogledd Iwerddon Arglwydd Faer o hyn ymlaen.

Roedd y cyfan yn rhan o gystadleuaeth Anrhydeddau Dinesig a gafodd ei chynnal fel rhan o'r dathliadau yn 2012.

'Safon uchel'

Y Frenhines ei hun sy'n rhoi'r statws yn dilyn cyngor gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Arglwydd Lywydd y Cyfrin Gyngor, Nick Clegg.

Dywedodd Mr Clegg: "Llongyfarchiadau i Armagh, Chelmsford, Perth a Llanelwy sydd wedi cael eu gwobrwyo o blith ymgeiswyr eithriadol.

"Ar draws y DU cefais fy swyno gan y balchder a'r angerdd a ddangoswyd gan bobl wrth gyflwyno'u ceisiadau.

"Roedd safon yr ymgeiswyr yn uchel iawn, ac ni ddylai'r rhai aflwyddiannus ddigalonni."

Y tro diwethaf i gystadleuaeth Anrhydeddu Dinesig gael ei chynnal oedd yn 2002 i nodi jiwbilî aur y Frenhines, pan gafodd Casnewydd statws dinas.

'Sail wych'

Bydd gan yr Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd, Chris Ruane, ddinas yn ei etholaeth bellach.

"Hoffwn longyfarch arweinwyr dinesig a phobl Dinas Llanelwy sydd wedi ceisio am y statws yma ers blynyddoedd bellach," meddai.

"Roedd yn siom pan na chafwyd statws dinas yn flaenorol, ond yn hytrach na digalonni fe wnaethon nhw barhau gyda'u hachos ac fe allan nhw fod yn falch iawn o'u llwyddiant.

"Rwy'n credu y gall hyn rhoi sail wych i barhau gyda hybu popeth sy'n gwneud Llanelwy mor arbennig, fel y gadeirlan, Yr Ŵyl Gerdd a Beibl Esgob Morgan."

Statws

Daeth croeso i'r cyhoeddiad hefyd gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, a ddywedodd:

"Roedd Llanelwy yn un o'r lleoedd cyntaf i mi ymweld ag ef yn fy rôl fel Ysgrifennydd Cymru, ac mae'r cyhoeddiad yma'n adlewyrchu statws gogledd Cymru fel lle gwych i ymweld, gweithio a gwneud busnes ynddo.

"Bydd Cymru, a gogledd Cymru yn arbennig, yn mynd o nerth i nerth i adlewyrchu'r anrhydedd yma."