Pwy yw'r ymgeiswyr yn isetholiad Caerffili, a beth yw eu polisïau?

Mae Castell Caerffili yn un o leoliadau amlycaf yr etholaeth
- Cyhoeddwyd
Dyma'r gwleidyddion sy'n cystadlu yn yr isetholiad mwyaf diddorol, ym marn nifer, yn ystod 26 mlynedd datganoli.
Mae wyth o ymgeiswyr yn y ras i gynrychioli etholaeth Caerffili ym Mae Caerdydd.
Wedi'i ysgogi gan farwolaeth sydyn yr aelod o'r Senedd Llafur Hefin David ym mis Awst, bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar 23 Hydref.
Mae'r ymgeiswyr wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor, ac mae crynodeb o'u haddewidion allweddol a roddwyd gan y pleidiau gwleidyddol.
Steve Aicheler - Democratiaid Rhyddfrydol

Mae Steve Aicheler yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomas a Machen ac yn llywodraethwr Ysgol Machen.
Mae'n un o reolwyr sefydliad cenedlaethol di-elw sy'n hyrwyddo addysg entrepreneuriaeth, lle mae'n trefnu digwyddiadau cenedlaethol yn ogystal â lobïo llywodraeth genedlaethol a rhanbarthol ar bolisi entrepreneuriaeth ac addysg.
Mae wedi sefydlu nifer o fusnesau yng Nghaerffili yn y gorffennol ac wedi byw ym Machen gyda'i deulu am 20 mlynedd.
Beth yw ei bolisïau?
Datrys yr argyfwng gofal cymdeithasol i ryddhau pwysau ar GIG Cymru a lleihau amseroedd aros;
Darparu 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed, fel bod gan bob rhiant yng Nghaerffili fynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg;
Rhoi blaenoriaeth i addysg, gan sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru fynediad cyfartal at gyfleoedd â phobl ifanc yn Lloegr;
Dod â swyddi yn ôl i Gaerffili, gan herio Bargen Ddinesig sy'n canolbwyntio ar Gaerdydd ac sydd "wedi methu â chyflawni ar gyfer pobl leol";
Amddiffyn gwasanaethau lleol sydd "dan fygythiad" gan Lafur yn lleol ac yn y Senedd.
Anthony Cook - Gwlad

Magwyd Anthony Cook yng Nghefn Hengoed, ac mae'n byw yn Ystrad Mynach.
Dywed fod ei deulu wedi bod yn "rhan o hanes mwyngloddio Cwm Rhymni ers cenedlaethau".
"Fel bachgen ifanc, chwaraeais yng nghysgod glofa Penallta a daliais y bws C9 i Fargoed i fynd i siopa gyda fy Nain mewn stryd fawr a oedd unwaith yn ffynnu," meddai.
"Fel tad i dri o blant hardd, rwy'n mynd â nhw ar anturiaethau dros Barc Penallta a thir Comin Gelligaer."
Dywed ei fod yn deall y "brwydrau sydd wedi dilyn dirywiad ein diwydiannau traddodiadol".
Beth yw ei bolisïau?
Helpu canol trefi drwy adeiladu tai, lleoli gwasanaethau cyhoeddus fel polyclinigau (canolfannau ar gyfer meddygfeydd teulu, cleifion allanol a man anafiadau) yno ac annog agor siopau gyda'r nos, o leiaf o fis Ebrill i fis Hydref;
Diwygio TAW gan fod adeiladu o'r newydd yn rhydd o'r dreth ond nid yw atgyweirio, gan ei gwneud hi'n rhatach adeiladu o'r newydd ar gyrion y dref yn hytrach nag adfer hen ganol y dref (mae'r pŵer hwn yn nwylo ASau yn San Steffan);
Dylai llywodraeth etholedig Cymru redeg Cymru, nid byrddau a phaneli sydd angen cyllid ychwanegol i'w gweinyddu a rhoi ffordd i weinidogion osgoi cyfrifoldeb;
Rhoi'r gorau i gymorthdaliadau ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy fel ffermydd solar sy'n "dinistrio tir amaethyddol da";
Gwrthwynebu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff anllywodraethol (NGOs) sy'n bleidiol yn wleidyddol, e.e. cyrff anllywodraethol sy'n ymgyrchu dros gael mynediad i ofodau i fenywod gan ddynion.
Gareth Hughes - Y Blaid Werdd

Ganwyd Gareth Hughes ym Mangor ac mae'n byw yng Nghaerffili.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars ym Mangor, Coleg Harlech ac Ysgol Economeg Llundain.
Mae wedi bod yn brentis argraffydd, newyddiadurwr print, darlithydd prifysgol, ymchwilydd, a chwaraeodd ran amlwg yn nyddiau cynnar cymdeithasau tai yng Nghymru.
Dychwelodd i newyddiaduraeth gyda chreu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, fel gohebydd a sylwebydd gwleidyddol ITV Cymru, gan ddadansoddi bywyd cyhoeddus yn ddiweddarach ar gyfer BBC Radio Cymru ac eraill.
Beth yw ei bolisïau?
Creu swyddi gwyrdd i bobl lle maen nhw'n byw;
Darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell – gan gynnwys mwy o wasanaethau bysiau gyda'r nos a thai cynnes a diogel;
Adeiladu cymunedau cryfach gyda lleisiau lleol grymus;
Hyrwyddo dyfodol tecach a gwyrddach wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Gareth Potter - Ceidwadwyr

Mae Gareth Potter yn briod ac mae ganddo ddau o blant, ac mae wedi byw yng Nglyn Ebwy ers y llynedd.
Ganwyd ef ym Mhont-y-pŵl, fe'i magwyd ar ystâd gyngor yn Nhrefddyn a mynychodd Ysgol Gyfun Gorllewin Mynwy.
Yn 16 oed bu'n gweithio ar benwythnosau mewn gwesty ar gyrion Brynbuga a dechreuodd weithio ym maes manwerthu tra yn y coleg ac yn astudio technoleg gwybodaeth yn y brifysgol.
Yna, fel rheolwr cymorth prosiect yn siop manwerthu Matalan, teithiodd ar draws Cymru a Lloegr cyn symud i Southport yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Gweithiodd i nifer o fanwerthwyr, yn ystod cyfnod ym Mryste, ac yna ym maes manwerthu elusennol gyda Sefydliad Prydeinig y Galon.
Mae wedi bod yn aelod staff i'r aelod Ceidwadol o'r Senedd dros dde-ddwyrain Cymru, Natasha Asghar, ac yn rheolwr ymgyrch Ceidwadwyr Bryste a De Sir Gaerloyw am y pedair blynedd ddiwethaf.
Beth yw ei bolisïau?
Diddymu trethi busnes ar gyfer busnesau bach i ganiatáu i'n strydoedd mawr dyfu, gan greu mwy o swyddi lleol a lleihau diweithdra ledled Caerffili;
Gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion - cyflwyno pocedi ffôn cloadwy ym mhob ysgol yng Nghaerffili, a sicrhau bod plant yn cael eu gwahardd am gario cyllyll i'r ysgol;
Pwyso am wasanaethau meddyg teulu sy'n ymestyn y tu hwnt i 09:00 i 19:00, adolygu cynllunio ysbytai'r GIG sydd wedi gweld ysbytai fel Ysbyty Ystrad Fawr yn cael eu cynllunio ar gyfer gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys, ond yn lle hynny mae pob claf sydd angen Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn mynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Nhorfaen 30 munud i ffwrdd;
Diddymu terfyn cyflymder 20mya Cymru a chyflwyno ffordd liniaru'r M4 i'r de o Gasnewydd i gefnogi twf yn ein tref a'n pentrefi ledled Caerffili;
Cadw gwasanaethau lleol ar agor wrth dorri gwastraff y cyngor, gan ddileu ehangu'r Senedd a chychwyn Cynllun Gweithredu Gwrth-Wastraff.
Llŷr Powell - Reform

Mae Llŷr Powell wedi byw a gweithio yng Nghaerffili am y pum mlynedd ddiwethaf ac mae wedi galw'r ardal yn gartref am lawer o'i fywyd proffesiynol, ar wahân i seibiant byr i weithio yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2024.
Fel arbenigwr cyfathrebu, mae wedi gweithio mewn sefydliadau cyhoeddus, gwleidyddol ac elusennol, gan gynnwys rolau mewn cyfathrebu gwleidyddol a materion cyhoeddus, lle mae wedi defnyddio ei blatfform i dynnu sylw at faterion sy'n wynebu cymunedau sydd wedi'u gadael ar ôl yn ne Cymru.
Mae hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gefnogwr brwd o rygbi Cymru ar lawr gwlad, yn ogystal â bod yn ddilynwr brwd o'r tîm cenedlaethol.
Beth yw ei bolisïau?
Diogelu'r GIG, am ddim i ddefnyddwyr, gyda phresgripsiynau am ddim. Dywed y bydd yn hyrwyddo rhestrau aros byrrach, mwy o staff rheng flaen, cyllid priodol ac uwchraddio Ysbyty Ystrad Fawr;
Cefnogi strydoedd mawr lleol, bod yn llais cryf dros economi leol Caerffili a blaenoriaethu denu buddsoddiad sydd ei angen yn fawr i greu mwy o gyfleoedd a swyddi yn yr ardal;
Rhoi diwedd ar bolisi Cenedl Noddfa, sydd "wedi gwastraffu £55m o arian trethdalwyr";
Brwydro i gadw llyfrgelloedd ar agor gan fod cyngor Llafur eisiau cau 10 ohonynt "tra'n eistedd ar bron i £190m mewn cronfeydd wrth gefn wrth i dreth y cyngor barhau i godi". Hefyd sicrhau bod y cronfeydd wrth gefn hyn yn cael eu gwario ar gymunedau lleol nid prosiectau gwastraffus;
Cael Cymru i symud eto trwy bwyso i wrthdroi terfynau cyflymder 20mya Llafur, sy'n "effeithio'n negyddol ar economi Caerffili ac yn atal busnesau rhag buddsoddi yn y rhanbarth". Cefnogi cysylltiadau trafnidiaeth gwell a mwy diogel.
Roger Quilliam - UKIP
Mae Roger Quilliam wedi bod yn aelod o bwyllgor gweithredol cenedlaethol UKIP ers 2024.
Dywed y blaid ei fod wedi gweithio'n agos gydag arweinydd y blaid Nick Tenconi ers dros ddwy flynedd mewn dinasyddiaeth weithgar a newyddiaduraeth ddinasyddion ar gyfer UKIP, Turning Point UK, a Disciples of Christ.
Dywed UKIP ei fod yn ymgyrchu yn erbyn mewnfudo torfol, comiwnyddiaeth, rhyddfrydiaeth, ac o blaid gwladgarwch, cenedlaetholdeb a thraddodiadaeth, a bod ei werthoedd craidd wedi'u gwreiddio mewn teulu, cymuned, hunaniaeth genedlaethol, cyfiawnder, a chyfraith a threfn.
Beth yw ei bolisïau?
Diddymu'r Senedd;
Rhewi mewnfudo am o leiaf bum mlynedd;
Alltudio torfol ac ailfudo;
Adfer Cristnogaeth yn ôl yng nghanol y llywodraeth a rhoi'r Prydeinwyr yn gyntaf.
Richard Tunnicliffe - Plaid Lafur

Mae Richard Tunnicliffe wedi byw yng Nghaerffili gyda'i wraig Lynda, a aned yn Nhroed-y-rhiw, ers 26 mlynedd ac maen nhw wedi magu eu tri mab yn y dref.
Mae wedi gweithio fel cyfrifydd a dadansoddwr ariannol ac mae'n rhedeg cwmni cyhoeddi gyda'i wraig, gan arbenigo mewn cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau plant poblogaidd.
Cafodd ei annog i ddod yn fwy gweithgar yn y blaid leol gan Hefin David, a oedd yn ei fentora i fod yn ymgeisydd yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf ar adeg ei farwolaeth.
Beth yw ei bolisïau?
Anrhydeddu gwaddol Hefin David drwy wrando ar etholwyr a datrys problemau cymunedol gyda'n gilydd;
Hyrwyddo'r GIG drwy weithio'n rhagweithiol gydag arweinwyr y gwasanaeth iechyd lleol;
Ennill ymddiriedaeth drwy wneud yr hyn mae'n dweud y bydd yn ei wneud, a pheidio byth ag addo gormod;
Galw ar y cyngor i flaenoriaethu diogelu llyfrgelloedd ledled y sir, a defnyddio unrhyw gyllid yn y dyfodol i wneud hynny.
Lindsay Whittle - Plaid Cymru

Fe'i ganed yn nhref Caerffili, mae'n byw yn Abertridwr, ac fe gafodd ei fagu ar ystâd gyngor Penyrheol a mynychodd Ysgol Gynradd Cwm Ifor.
Yn gynghorydd i Benyrheol ers 1976, roedd yn arweinydd Cyngor Caerffili o 1999 i 2004 a 2008 i 2011, ac mae wedi bod yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor ers 2022.
O 2011 i 2016 roedd yn aelod Cynulliad dros ranbarth Dwyrain De Cymru.
Beth yw ei bolisïau?
Ymgyrchu dros setliad ariannu teg i Gymru i helpu amddiffyn gwasanaethau lleol a gwrthwynebu toriadau, gan wrthwynebu cynlluniau diweddar i gau llyfrgelloedd cyhoeddus a chanolfan hamdden yn etholaeth Caerffili;
Denu swyddi o safon: Byddai cynllun Gwneud i Gymru Weithio Plaid Cymru yn golygu rhoi mwy o gymorth i fusnesau bach a chanolig a chwmnïau cydweithredol sy'n eiddo i bobl leol yng Nghaerffili, addasu cyfraddau busnes i hybu canol trefi a helpu busnesau i aros yn eiddo lleol;
Bargen deg ar drafnidiaeth: Mae biliynau sy'n cael eu gwario ar brosiectau rheilffordd yn Lloegr, fel HS2 a llinell Rhydychen-Caergrawnt, yn dod ag arian ychwanegol i'r Alban a Gogledd Iwerddon ond nid i Gymru. Byddai rhyddhau arian i Gymru yn helpu i dalu am welliannau lleol;
Buddsoddi mewn gofal iechyd sylfaenol. Mae'n cefnogi cynllun Plaid Cymru i sefydlu canolfannau gofal dewisol i gael pobl i gael eu gweld yn gyflymach, gyda system brysbennu (triage) i gyflymu atgyfeiriadau rhwng meddygon teulu ac ysbytai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl