Lowri i arwain BBC Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Radio CymruFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri Rhys Davies wedi bod yn is-olygydd yr orsaf ers 2003

Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Lowri Rhys Davies sydd wedi ei phenodi yn Olygydd Rhaglenni Cyffredinol.

Bydd Lowri yn cydweithio yn agos gyda phennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd, a bydd hi'n gyfrifol am gomisiynu a goruchwylio holl raglenni cyffredinol yr orsaf - yn rhaglenni mewnol ac annibynnol.

Yn gynhyrchydd BBC Radio Cymru ers 2003, mae Lowri hefyd wedi cael profiad fel is-olygydd ar gyfnodau gwahanol ers 2008.

Yn ystod y cyfnod yma, bu'n gyfrifol am reoli staff yng Nghaerdydd a rhoi adborth cyson ar raglenni mewnol ac allanol gan drafod a datblygu syniadau gyda chwmnïau annibynnol ac ymdrin â rhaglenni amrywiol.

'Sylfeini cadarn'

Yn ôl Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, Siân Gwynedd: "Mae gan Lowri flynyddoedd lawer o brofiad o gynhyrchu rhaglenni radio ac o arwain timau cynhyrchu.

"Mae ganddi adnabyddiaeth dda o Radio Cymru fel gorsaf ac rydw i'n siŵr y bydd hi yn cyflawni gofynion y swydd newydd hon ac yn gosod sylfeini cadarn i'r orsaf yn y dyfodol."

Dywedodd Lowri Rhys Davies: "Mae Radio Cymru'n bwysig iawn i mi yn bersonol - dyma'r orsaf y gwrandawais arni wrth gael fy magu, a dwi wedi cael y fraint o weithio fel cynhyrchydd yma ers bron i ddegawd.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr rŵan at arwain y timau sy'n gweithio ym Mangor a Chaerdydd drwy gyfnod o newid a sicrhau fod Radio Cymru'n parhau i gynhyrchu rhaglenni cryf a chreadigol sy'n berthnasol i'n cynulleidfa."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol