Rali yn Wrecsam i gefnogi gweithwyr Remploy
- Cyhoeddwyd
Mae gorymdaith a rali wedi cael eu cynnal yn Wrecsam i gefnogi ymdrechion i gadw ffatri Remploy y dref ar agor.
Fe wnaeth tua 100 o weithwyr a'u cefnogwyr orymdeithio drwy'r dref ddydd Sadwrn
Mae'r safle yn Wrecsam yn un o saith ffatri Remploy yng Nghymru dan fygythiad gyda swyddi 272 o bobl anabl yn y fantol.
Mae ffatri Wrecsam yn cyflogi 42, y chwe safle arall yw Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful ac Abertawe.
Bydd y safleoedd yn Y Porth yn y Rhondda a Chastell-nedd yn parhau ar agor.
'Dan fygythiad'
Yn bresennol yn y rali oedd Aelod Seneddol lleol, Ian Lucas, ac Aelod Cynulliad Wrecsam Lesley Griffiths.
Dywedodd Mr Lucas ei fod yn benderfynol o frwydro i'r eithaf er mwyn cadw'r ffatri ar agor.
"Rydym yn fodlon cydweithio gydag unrhyw un er mwyn cadw'r lle ar agor," meddai.
Yn ol David Bithell, cynghorydd sir lleol, fe fydd rali debyg yn cael ei chynnal bob dydd Sadwrn tan i ddyfodol y ffatri gael ei benderfynu.
"Pan roed dyfodol y ffatri dan fygythiad yn 2007 roeddwn yn rhan o'r ymgyrch i achub y ffatri ac fe arwyddodd 15,000 o bobl ddeiseb," meddai.
"Cefnogodd pobl Wrecsam yr ymgyrch ar y pryd ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n cefnogi'r ymgyrch hon.."
Dywedodd y Gweinidog dros Bobl Anabl, Maria Miller, ei bod yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weld a fyddai modd cadw unrhyw un o'r saith safle ar agor.
Ond mae hi wedi diystyru'r posibilrwydd o roi cymhorthdal pellach i'r ffatrïoedd.
'Calonogol'
Cafodd safleoedd Remploy eu sefydlu ym 1946 fel rhan o'r Wladwriaeth Les ac mae'r gweithwyr yn ofni na fyddan nhw'n gallu dod o hyd i swyddi newydd.
Mae'r gwaith yn amrywio o wneud dodrefn i ailgylchu offer trydanol.
Ond mae'r rhan fwyaf o'u ffatrïoedd yn gwneud colled.
Cafodd casgliadau astudiaeth cyfrifwyr KPMG eu cyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon a ddatganodd y disgwylir i ffatri Remploy yn Wrecsam wneud colled o £878,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Ond dywedodd Mrs Miller ei bod yn barod i wrando ar syniadau i gadw'r ffatri ar agor.
"Mae cyhoeddiad diweddaraf y Llywodraeth yn galonogol iawn," meddai Mr Bithell.
"Rydw i wedi ymweld â'r ffatri nifer o weithiau yn ystod y dyddiau diwethaf ac mae'r gweithlu'n bositif iawn.
"Yn wir rwy'n credu eu bod yn gweithio hyd yn oed yn galetach i ddangos y gallan nhw lwyddo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012