Eisteddfod yr Urdd yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf fe gafodd Eisteddfod Ranbarth Urdd Gobaith Cymru ei chynnal yn Llundain.
Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yng Nghapel Jewin, yn ardal Barbican.
Y darlledwr, Huw Edwards agorodd yr Eisteddfod yn swyddogol.
Bu'r y mwyafrif o'r cystadleuwyr yn cystadlu'n fyw yn y Capel, ac eithrio tair chwaer o Bahraina gystadlodd am y tro cyntaf eleni drwy gysylltiad Skype.
Beirniaid
Cafodd eu perfformiadau eu darlledu'n fyw ar sgrin fawr gan gael eu beirniadu yn yr un modd â'r cystadleuwyr eraill.
Y beirniaid oedd y gantores Fflur Wyn, Catrin Morris Jones, Rhian Medi Roberts, Nesta Owen, Sara Roberts a Deiniol Rees.
Yn arwain o'r llwyfan oedd Sioned William, Iago Griffith a Rhian Jones.
Sefydlwyd yr Eisteddfod Rhanbarth i'r rhai sy'n byw y tu allan i Gymru wyth mlynedd yn ôl a hyd eleni, mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd.
Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Mae nifer o aelodau'r Urdd yn byw dros y ffin ac yn awyddus i gystadlu yn yr Eisteddfod gyda'u bryd ar gyrraedd llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
"Os yw'r arbrawf yma o gynnal yr Eisteddfod tu allan i Gymru yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn ymweld â dinasoedd a chanolfannau eraill dros y ffin yn y dyfodol."
Bydd buddugwyr yr Eisteddfod yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir ar dir Coleg Meirion Dwyfor, Glynllifon rhwng 4 a 9 o Fehefin 2012.