Ymchwiliad i ffaeleddau data Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig am yr eildro ym mis Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad ffurfiol i ffaeleddau yn y ffordd y mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn ymdrin â data.
Mae hyn yn dilyn gohirio cyhoeddi ystadegau swyddogol am berfformiad y gwasanaeth iechyd yr wythnos diwethaf oherwydd problemau yn y modd y cafodd rhestrau aros eu hadrodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ddydd Mercher, rhybuddiodd Jeremy Miles ei fod yn anhapus ag ymateb y bwrdd a bod ganddyn nhw 24 awr i wirio'u hystadegau a datrys y sefyllfa.
Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr y bwrdd: "Rydym yn cydnabod difrifoldeb y broblem yr ydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd gyda'n data amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac rydym wedi bod yn gweithio'n gyflym i'w diweddaru a'i ailgyflwyno.
"Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r broblem hon wedi effeithio ar gleifion sy'n derbyn eu hapwyntiadau, nac wedi effeithio ar ddarparu gofal."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am "gamau brys ac ymchwiliad annibynnol i adfer hyder y cyhoedd a gwella perfformiad" yn y bwrdd.
Dywedodd Plaid Cymru bod y cam diweddaraf yn "ddamniol iawn ac yn adrodd cyfrolau am fethiant Llafur i ddod a threfn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac mae angen archwiliad i fynd i wraidd y sefyllfa".
'Tanseilio hyder'
Esboniodd Jeremy Miles bod "y pryderon hyn yn cynnwys anomaleddau o ran maint y rhestr aros yr adroddwyd arno ac anghysondebau o ran lefelau gweithgarwch gweithredol.
"Mae hyn yn tanseilio hyder yn nibynadwyedd eu gwybodaeth.
"Dim ond ar y data sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd y bydd yr ymchwiliad yn edrych.
"Ni fydd yn cynnwys data sy'n ymwneud â chanser, profion diagnostig, therapïau na gofal brys a gofal mewn argyfwng, gan nad oes anghysondebau wedi'u canfod yn y rhain hyd yma."
Pwysleisiodd "mai adolygiad sy'n ymwneud ag ansawdd y data a'r trefniadau rheoli data yw hwn, yn hytrach nag ansawdd y gofal i gleifion neu ba mor hir y mae pobl yn aros am ofal yn y gogledd".

Mae'r adolygiad "er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd mewn ystadegau swyddogol" meddai Jeremy Miles
Y methiant hwn yw'r diweddaraf mewn rhestr hir o broblemau yn y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd i boblogaeth o tua 700,000 o bobl ar draws y gogledd.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaldr sydd â'r perffromiad gwaethaf o holl fyrddau iechyd Cymru o ran y cleifion sy'n aros y cyfnodau hiraf am eu triniaeth.
Ym mis Awst roedd mwy na 5,400 o gleifion yn y gogledd wedi aros dwy flynedd neu ragor am eu triniaeth - 63% o'r cyfanswm dros Gymru gyfan.
Y bwrdd sydd hefyd yn perfformio waethaf am oedi mewn unedau brys ac amseroedd aros canser.
Mae'r gwnedidau perfformiad yn dilyn pryderon hirdymor am y ffordd y mae'r bwrdd yn cael ei reoli.
Cafodd y sefydliad ei osod mewn "mesurau arbennig" am yr eilwaith gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023 yn dilyn gofidiau difrifol am lywodraethant a rheolaeth.
Cyn hynny treuliodd y bwrdd dros 5 mlynedd, rhwng 2015 a 2020, dan y lefel uchaf o oruchwyliaeth.
Pennaeth newydd GIG Cymru yn 'poeni' am restrau aros
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd
Cynlluniau newydd i geisio lleihau rhestrau aros y GIG
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
'Dim cysondeb' ar draws bwrdd iechyd y gogledd, meddai claf canser
- Cyhoeddwyd18 Awst
Yn gynharach wythnos diwethaf, cyn i'r methiannau data ddod i'r amlwg, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y byddai'r tîm pellach o arbenigwyr allanol yn cael eu hanfon i gefnogi'r bwrdd.
Dywedodd Jeremy Miles fod yr ymateb yn dilyn materion oedd yn "parhau i beri risgiau i ddiogelwch cleifion a hyder y cyhoedd".
Byddai'r tîm, meddai, yn canolbwyntio ar leihau rhestrau aros ar gyfer triniaethau, profion diagnosteg a gofal canser - ynghyd â lleihau'r oedi sy'n digwydd i ambiwlansys y tu allan i unedau brys.
Disgrifiodd Plaid Cymru'r penderfyniad fel "methiant llwyr gan y llywodraeth Lafur" gyda'r Ceidwadwyr yn mynnu fod y sefyllfa yn gyfaddefiad fod y penaethiaid "yn anaddas ar gyfer eu swyddi".
Yn ôl rhai beirniaid mae bwrdd iechyd y gogledd yn rhy fawr i weithredu'n effeithiol ac yn dadlau y dylai gael ei rannu.
Mewn cyfweliad a BBC Cymru yn gynharach y mis hwn dywedodd prif weithredwr newydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Jacqueline Totterdell, nad oedd hi wedi dod i farn eto ynglŷn â'r cwestiwn hwnnw.

"Mae'n rhaid i rhywbeth newid" meddai Dyfed Edwards
Mewn cyfweliad gyda Liam Evans ar gyfer Newyddion S4C cyn datganiad brynhawn Iau fe wnaeth Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthod y ffaith bod gofal brys yn y gogledd "wedi torri" ond mae'n cydnabod bod o mewn stad o "argyfwng".
Yn ôl Dyfed Edwards mae'n rhaid i "rhywbeth" o fewn y gwasanaeth iechyd newid "ar frys" er mwyn ateb yr heriau tymor byr a thymor hir.
Daw ei sylwadau wythnos ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai'n darparu mwy o gefnogaeth i'r bwrdd iechyd sydd eisoes o dan fesurau arbennig.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n glir bod disgwyl i fyrddau iechyd "leihau amseroedd aros unedau brys" gan fuddosddi "£200m" eleni ar draws Cymru.
Mae adroddiad cynnydd diweddar ar sefyllfa'r bwrdd iechyd yn dangos bod y gwasanaeth yn y gogledd yn wynebu heriau sylweddol ar draws nifer o feysydd er yn cydnabod bod gwelliannau mewn arweinyddiaeth.
Mae'r bwrdd iechyd yn parhau â'r amseroedd aros hiraf yng Nghymru ac roedd 5,399 o lwybrau yn aros mwy na dwy flynedd am ofal wedi ei gynllunio mewn 15 o feysydd arbennig.
'Ein staff o dan bwysau afresymol'
Gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles yn disgrifio'r sefyllfa fel un "annerbyniol", mi ddywedodd Cadeirydd y bwrdd Dyfed Edwards ei fod yn derbyn hynny.
"Dwi 'di dweud yn gyhoeddus bod ni'n wynebu argyfwng oherwydd y niferoedd a bod ein staff o dan bwysau afresymol a bod pobl yn wynebu disgwyl yn llawer rhy hir 'dan amodau annerbyniol'," meddai.
"Mae'n rhaid i rhywbeth newid... dwi'n gobeithio rwan bod ganddom ni gynllun yn barod i weithredu gyda chymorth ychwanegol."
Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw yn darparu "capasiti ac arbenigedd ychwanegol ar lefel uchel o fewn y bwrdd iechyd".
Bydd hwn y canolbwyntio ar leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio.
Tra'n derbyn y sefyllfa heriol dweud mae Dyfed Edwards bod yn rhaid hefyd edrych ar ffyrdd newydd o ddiogelu'r gwasanaeth iechyd a dechrau ystyried symud adnoddau o'r ysbytai i'r gymuned.
"Yn ymarferol mae'n rhaid i bawb dderbyn os dyna lle mae'r ateb, a dwi'n cytuno, yna mae'n rhaid symud y pwyslais o'r ysbytai i ofal yn y gymuned gan gynnwys adnoddau dynol ac ariannol," ychwanegodd.
"Dyna'r drafodaeth sydd ei hangen ac mae 'na oblygiadau i hynny.
"Mae'n rhaid i ni geisio gwneud y ddau beth... yr hyn sy'n gyrru ni yn y gwasanaeth iechyd ydy materion tymor byr".
"Mae'n rhaid i rhywun fod digon dewr i ddeud 'da ni am gael gweledigaeth 10 mlynedd a chytuno ar be sydd angen ei wneud'."
'Ein llorio' gan y nifer sy'n dod mewn
Yn ôl Mr Edwards mae'n amhosib gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd y pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth gan restrau aros hir.
"Da ni'n cael ein llorio gan y niferoedd sy'n dod mewn i'r system.
"Mae'n rhaid cymryd cam yn ôl a gofyn 'pa fath o wasanaeth iechyd a lles 'da ni angen ddeng mlynedd i rwan.
"Mae'n rhaid bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd a gwahanol."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y gefnogaeth newydd yma gan y llywodraeth yn rhoi y sgiliau ac adnoddau i bobl o fewn y bwrdd iechyd o sut i fynd i'r afael â'r heriau.
"Tymor byr, ma'n rhaid i rhywbeth newid ar frys - tymor hir mae'n rhaid cael arweiniad ac ateblorwydd ar bob lefel o'r bwrdd iechyd."
Wrth ymateb i sylwadau'r cadeirydd dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gosod disgwyliadau clir i bob bwrdd iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i leihau arosiadau hir mewn adrannau brys a chwblhau trosglwyddiadau cleifion o fewn 45 munud.
"Rydym wedi buddsoddi mwy na £200m eleni ar draws Cymru i helpu cefnogi pobl yn eu cymunedau ac osgoi cleifion yn gorfod mynd i'r ysbyty.
"Rydym wedi cyhoeddi mesurau pellach i gefnogi'r bwrdd iechyd ac mae rheini yn angenrheidiol i fynd i'r afael â'r materion hyn ac i sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal y mae nhw'n haeddu."