Blaenau Gwent a'r Rhyl ymhlith yr ardaloedd mwyaf amddifad - ffigyrau fesul cyngor

- Cyhoeddwyd
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, ardal o gwmpas Stryd Fawr Y Rhyl sy'n parhau i fod â'r lefel uchaf o amddifadedd (deprivation).
Mae'r arolwg yn dangos bod yna ardaloedd difreintiedig ym mhob rhan o Gymru, ac mae pob sir heblaw Sir Fynwy yn cynnwys ardal sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig.
Blaenau Gwent oedd yr ardal â'r nifer uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Roedd 9 ardal yno yn y 10% mwyaf tlawd yng Nghymru.
Sut mae mesur amddifadedd?
Dyma mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried wrth ddynodi amddifadedd ardaloedd bychain:
Incwm
Cyflogaeth
Iechyd
Addysg
Mynediad at wasanaethau
Tai
Diogelwch cymunedol
Amgylchedd ffisegol
Mae'r ystadegau yn ystyried sut mae'r ffactorau yma'n cyfrannu at wneud un ardal yn fwy difreintiedig nag un arall.
Mae'r ymchwil yn galluogi awdurdodau i adnabod ardaloedd sydd angen cefnogaeth.
Adroddiad arbennig o Gaerau ger Maesteg
Owain Evans, Gohebydd BBC Cymru
Mae'n nos Fawrth ac mae clwb bocsio Caerau yng Nghwm Llynfi dan ei sang.
Bob nos Fawrth a nos Iau mae plant 6-12 oed yn dod yma i gadw'n heini a chael hwyl.
Mae'n un o nifer o weithgareddau sy'n digwydd yng nghanolfan ieuenctid Noddfa.
Dywedodd y rheolwr Matthew Rowlands: "Mae gyda ni glwb ar ôl ysgol, clwb ieuenctid, mae'r clwb bocsio yma, clwb dawns a mae gweithgareddau dros y gwyliau.
"Mae'r holl bethau ni'n 'neud yn gallu helpu plant gyda'u hyder a'u motivation."

Mae'r clwb bocsio yn un o nifer o weithgareddau yng nghanolfan ieuenctid Noddfa
Fel sawl cymuned lofaol arall mae Caerau, sydd ddim yn bell o Faesteg, wedi wynebu brwydr ers i'r pyllau gau.
Roedd nifer o ffatrïoedd yn y cwm ar un adeg, ond mae'r rheiny wedi mynd.
Mae 'na lai o waith ym Mhen-y-bont a Phort Talbot hefyd.
Mae'r ystadegau diweddara ar ardaloedd tlawd a gafodd eu cyhoeddi fore Iau yn gosod Parc Caerau ac Ystad Tudor yn y pedwerydd safle o ran ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Roedd yr ardal yn y bumed safle yn arolwg 2019.
Mae'r ardal hefyd wedi codi o'r pedwerydd i'r trydydd safle o ran amddifadedd tymor hir.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo'n llawn i fynd i'r afael â thlodi a gwella bywyd i bobl yng Nghymru fel blaenoriaeth, gan gynnwys y rhai yn y cymunedau lle mae'r amddifadedd mwyaf.

Mae rhan o Gaerau ymhlith ardaloedd tlotaf Cymru
Dyw hi ddim yn syndod i bobl leol fod rhan o Gaerau ymhlith ardaloedd tlotaf Cymru.
"Maen nhw 'di anghofio amdanom ni," meddai Andrew Cocks, un o gwsmeriaid Cafe Cwtch, sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau.
Yno hefyd mae Gail Evans yn prynu bwyd yn y siop: "Roedd Revlon, [Silent] Channel, Vitafoam, Porcelain, Aerospace.
"Tasech chi'n rhoi'r gorau i un swydd allech chi gael un arall y bore wedyn!"

Pobl ifanc gyda theuluoedd sy'n ei chael hi anoddaf, meddai Chris Johnes
Mae ardaloedd Parc Caerau a Stad Tudor yng Nghaerau wedi bod ymhlith y mwyaf difreintiedig ers i Lywodraeth Cymru ddechrau cyhoeddi ystadegau tlodi.
Mae dros chwarter y bobl sy'n byw yno dan 16 oed.
Mae Chris Johnes, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau - sy'n rhoi cefnogaeth ariannol i fentrau cymunedol fel Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau - yn poeni nad yw pobl ifanc yn flaenoriaeth yn wleidyddol.
"Y bobl sy'n cael y struggle mwya' gydag arian yw pobl ifanc, teuluoedd ifanc," meddai. "Nhw yw'r bobl sydd methu ffeindio ceiniog sbâr.
"Mae 'na argyfwng iechyd meddwl pobl ifanc a dydy'r gwasanaethau ddim yn bresennol.
"Ni angen shift at gefnogi pobl ifanc, teuluoedd, rhieni a phlant."
'Sai'n siŵr beth dwi'n mynd i neud'
Am y tro cyntaf eleni mae ymchwil y llywodraeth yn edrych ar ofal plant.
Mae hwnnw'n cael ei ystyried yn bwysig am ei fod yn galluogi rhieni plant bach i weithio, ac felly yn debygol o leihau amddifadedd.
Dywedodd Rhiannon Walker, sydd â babi deufis oed, Dewi: "Mae rhaid i chi fynd lawr i Faesteg achos does dim byd yng Nghaerau. Mae'n rhaid i chi gael car.
"Bydda i'n cael help Flying Start [cynllun gofal plant Dechrau'n Deg] pan mae'r babi yn ddwy, ond mae cost gofal plant mor ddrud bydda i just yn gweithio i dalu am y gofal.
"Sai'n siŵr beth dwi'n mynd i neud eto."

Mae gan Rhiannon Walker fabi deufis oed - Dewi - ac mae'n gweld costau gofal yn her
Mae tlodi yn cael effaith ar iechyd, ac yn ôl arolwg diwethaf Llywodraeth Cymru yn 2019 roedd amddifadedd iechyd yn waeth mewn un rhan o Gaerau nag yn unman arall yng Nghymru.
Mae Jonathan Lloyd Jones yn fferyllydd lleol, ac mae'n dweud ei fod yn gweld "lot o broblemau cronig".
"Mae mwy o bobl yn ysmygu lan fan hyn, ni'n gweld llawer o bobl sy' dros bwysau.
"Ni'n gweld plant dros bwysau hefyd a wedyn ti'n meddwl am yr addysg iechyd a beth mae pobl yn ei brynu i fwyta.
"Mae prinder gwaith yn effeithio ar iechyd meddwl, mae'n anodd pan mae llai o routine a llai o gyflog gyda phobl - yn enwedig dros y blynyddoedd diwetha' lle mae hi 'di bod yn fwy a mwy anodd i fforddio bwyd iachus."

Doedd gwasanaethau cymorth ddim yn gallu fforddio i barhau i gynnig help i bobl Caerau, meddai Matthew Rowlands
Yn ôl Matthew Rowlands o Brosiect Ieuenctid Noddfa mae cefnogaeth gyson yn allweddol, ac mae'n teimlo fod pobl wedi dioddef o ganlyniad i dorri'n ôl ar wasanaethau.
"Roedd gyda ni Job Club yma, roedd e'n llwyddiannus iawn," meddai.
"Roedd gyda ni nifer o wasanaethau yn dod yma - Job Centre, Careers Wales, pethe o Gyngor Pen-y-bont - ond dechreuon nhw adael gan ddweud bod nhw ddim yn gallu fforddio i ddod yma.
"Roedd tua 20 o bobl 16 i 25 oed yn dod i mewn ac yna doedd dim byd yma."
Mae Cyngor Pen-y-bont yn dweud bod yr ardal yn parhau i dderbyn buddsoddiad ganddyn nhw, Llywodraeth Cymru, Halo Leisure a Chwaraeon Cymru ymhlith eraill.
Maen nhw'n dweud bod yna ganolfan newydd yn Neuadd y Dref Maesteg i helpu pobl 16 oed i gael gwaith, a bod cynllun Dechrau'n Deg yn parhau i gefnogi teuluoedd trwy gynnig 12.5 awr o ofal plant am ddim bob wythnos.

Fel sawl cymuned lofaol arall, mae Caerau wedi wynebu brwydr ers i'r pyllau gau
Er yr heriau, mae 'na waith da yn digwydd yn lleol.
Mae siop Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau yn cael bwyd gan archfarchnadoedd lleol i'w werthu yn rhad.
Mae 'na gynllun i gefnogi pobl gyda dementia yng Nghapel Dyffryn, ac mae trac BMX newydd yn y pentref, heb sôn am yr holl weithgareddau sy'n digwydd ym Mhrosiect Ieuenctid Noddfa.
Fel y plant yn y clwb bocsio mae pobl Caerau yn gwneud eu gorau i helpu ei gilydd a tharo'n ôl yn erbyn tlodi.
'Targedu cymorth'
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ystadegau 2025 yn helpu i sicrhau y gall dargedu cymorth i'r cymunedau sydd ei angen fwyaf.
"Rydym wedi buddsoddi dros £7bn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi aelwydydd ledled Cymru drwy raglenni sy'n lliniaru pwysau ariannol, sy'n helpu i sicrhau cymaint o incwm â phosibl a gwneud y mwyaf ohono, ac sy'n helpu i gadw mwy o arian yn eu pocedi."
Ychwanegodd hefyd y bydd diweddariad yn cael ei gyhoeddi ddechrau fis Rhagfyr ar y camau sydd wedi eu cymryd ers 2022 yn ymwneud â Strategaeth Tlodi Plant Cymru.
Tlodi plant: Galw am brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd
- Cyhoeddwyd5 Hydref
Diffyg cyflawni yn 'rhwystredig' i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.