Ffagl Olympaidd: Mwy o fanylion
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o fanylion yn cael eu datgelu fore Llun ynglŷn â'r ffagl Olympaidd a'r daith drwy strydoedd threfi a phentrefi Cymru ym mis Mai.
Bydd dros 80 o drefi, dinasoedd a phentrefi yn cael cyfle i weld y ffagl wrth iddo gael ei chludo gan tua 500 o redwyr drwy Gymru rhwng Mai 25-30.
Ymhlith y rhai sydd wedi eu dewis i gario'r ffagl mae Samantha Hung o Gasnewydd, Jill Edge o Abergwaun, Ilid Roberts o Landudno a James Lusted o Fae Colwyn.
Cafodd y pedwar eu henwebu gan ffrindiau ac aelodau'r teulu.
Bydd y ffagl yn cyrraedd Trefynwy ar Fai 25.
Fe'i cludir drwy de a gorllewin Cymru, drwy Geredigion ac ar draws y gogledd.
Bydd yn gadael y Trallwng ar Fai 30.
Dros nos bydd y ffagl yn aros yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.
Ar ôl teithio ar hyd y gogledd bydd y ffagl yn cael ei chadw yng Nghaer ar noson Mai 29.
Bydd y rhedwyr yn dychwelyd i Gymru gan fynd drwy Wrecsam y diwrnod canlynol.
Yna bydd yn croesi'r ffin i Groesoswallt ond yn ôl i Gymru i'r Trallwng cyn gadael am Amwythig.
Un o uchafbwyntiau'r daith fydd Mai 29 pan fydd y ffagl yn cael ei chludo i ben yr Wyddfa ar y trên bach.
Cyn hynny bydd y ffagl hefyd yn cael ei chludo ar Gob Ceredigion yn Aberaeron, tra bydd cwch achub yr RNLI yn ei gludo o Fiwmares ar hyd y Fenai.
Ar ddiwrnod olaf y ffagl yng Nghymru bydd cwch yn ei gludo ar hyd Traphont ddŵr Pontcysyllte ger Wrecsam.
Bydd cyngerdd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar Fai 27, tra bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Abertawe, Aberystwyth a Bangor.
Bydd gemau pêl-droed y Gemau Olympaidd yn dechrau ar Orffennaf 25 yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd, dau ddiwrnod cyn i'r gemau gael eu hagor yn swyddogol yn Llundain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011