Silk: Bourne yn hyderus
- Cyhoeddwyd
Mae cyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn dweud ei fod yn hyderus y bydd Llywodraeth San Steffan yn gwrando ar argymhellion comisiwn sy'n ystyried hawliau trethu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Nick Bourne yn aelod o Gomisiwn Silk sy'n ystyried a ddylai Llywodraeth Cymru gael hawliau trethu a hawliau i fenthyca arian.
Cafodd y cyntaf o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus y Comisiwn ei gynnal yn Abertawe, gyda 14 o bobl yn mynychu.
Yn gyffredinol roedd y rhai oedd yna yn cefnogi rhoi'r hawl i lywodraeth Cymru allu amrywio rhai trethi.
Amrywio
Dywedodd un aelod o'r gynulleidfa ei bod yn chwerthinllyd fod gan gynghorau tre a chymuned bwerau o'r fath ond nid llywodraeth.
Awgrymodd aelod arall o'r gynulleidfa y gallai gwahanol drethi ar gyfer gwahanol ddiwydiannau ddenu pobl a diwydiannau i Gymru.
Dywedodd Leonard Hock ei fod o'n pryderu na fyddai' Cymru'n elwa pe bai Llywodraeth Cymru yn codi math penodol o dreth.
"Pe bai nhw'n codi £10 o'r dreth honno, yna fe allai i Llydoraeth San Steffan ddweud 'o nawn ni roi £10 yn llai i chi o dreth wahanol.'"
Pan ofynnwyd i Mr Bourne pa mor hyderus oedd o y byddai argymhellion y comisiwn yn gweld golau dydd dywedodd "hyderus iawn."
"Yn amlwg mae'n rhaid i ni sicrhau fod ein hargymhellion yn rhesymegol, ac yn amlwg bydd yn rhaid pwyso a mesur pa amserlen sy'n briodol.
"Ond rwyf yn hyderus fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awyddus ein bod yn cynnig argymhellion rhesymegol - argymhellion fyddai'n cadw undod y Deyrnas Unedig ac yn gwneud beth sydd orau i Gymru."
Dywedodd cadeirydd y comisiwn Paul Silk ei bod yn 'bwysig iawn' fod y comisiwn yn rhoi cyfle i bobl led led Cymru fynegi eu barn.
Dywedodd y gallai'r cyhoedd fynychu'r sesiynau cyhoeddus neu lenwi holiadur neu wneud cyfraniad drwy'r we.
Bydd yr argymhellion ar ddatganoli rhai grymoedd trethu a benthyciadau yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.