Isbostfeistres yn pledio'n euog i gyhuddiad o ddwyn

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Swyddfa'r PostFfynhonnell y llun, Other

Mae isbostfeistres wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddwyn £14,600 o swyddfa bost gafodd ei hail agor wedi i bentrefwyr dalu £15 yr un i brynu'r adeilad.

Yn Llys y Goron Caernarfon plediodd Margery Williams, 45 oed o Llanddaniel, Ynys Môn, yn euog i bedwar cyhuddiad o dwyllo Swyddfa'r Post.

Clywodd y llys fod archwiliad cyfrifon ym mis Mehefin wedi dangos ei bod hi wedi troseddu dros gyfnod o bedwar mis.

Roedd Williams wedi bod yn is bostfeistres ac yn rhedeg siop yn Llanddaniel er 2009.

'Codi arian'

Dywedodd Elen Owen ar ran yr amddiffyn fod bywyd y pentref yn brysur iawn.

"Nid oedd gan y pentref siop am gyfnod hir felly penderfynodd pentrefwyr godi arian," meddai.

"Prynodd y gymuned yr adeilad wedi iddyn nhw dderbyn grant Cynllun Lwfans Menter ac ar ôl i bentrefwyr benderfynu cyfrannu £15 yr un at y gronfa.

"Penderfynodd y gymuned rhoi'r siop ar brydles i unrhyw un oedd yn fodlon cymryd yr awenau.

"Roedd disgwyliadau ei theulu a'r gymuned ar ei hysgwyddau i sicrhau bod y fenter yn llwyddiannus.

"Ond fe deimlodd y baich yn sgil y disgwyliadau."

'Pwysau mawr'

Ychwanegodd fod Y Swyddfa Bost yn talu Williams £100 yr wythnos a bod ganddi dŷ a chyflog o £319 y mis am ei bod yn warden llety gwarchod yr henoed.

Roedd cynghorydd lleol, ei theulu a ffrindiau agos ymysg y rhai oedd yn yr oriel gyhoeddus ddydd Llun.

Dywedodd Ms Owen: "... roedd hi o dan bwysau mawr i gadw'r cyfleuster cyhoeddus hwn ar agor."

Gohiriodd y Cofiadur Wyn Lloyd Jones y ddedfryd.

Mae Williams, gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth, yn ceisio ail-forgeisio'i thŷ cyn ad-dalu'r arian gafodd ei ddwyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol