Rhoi'r gorau i gynllun difa moch daear
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i gynlluniau dadleuol i ddifa moch daear oedd yn rhan o ymdrech i waredu'r diciâu mewn gwartheg.
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, ei fod am gyflwyno cynllun brechu ar ôl ystyried tystiolaeth wyddonol yn ofalus.
Y llynedd cafodd y cynllun difa ei atal dros dro wedi i adolygiad gwyddonol gael ei gynnal ar ôl Etholiad y Cynulliad.
Roedd y llywodraeth flaenorol wedi bwriadu trefnu cynllun peilot i ddifa moch daear yn y gorllewin.
Ond mae Mr Griffiths wedi gwrthod y cynllun, gan ddweud y bydd cynllun brechu pum-mlynedd yn dechrau yng ngogledd Sir Benfro, lleoliad y cynllun difa ar un adeg.
'Dychrynllyd'
Mae'r cyhoeddiad wedi siomi undebau ffermwyr a'r gwrthbleidiau.
Dywedodd y gweinidog ei fod yn dal wedi ymrwymo i waredu "clefyd ofnadwy" oedd â goblygiadau "dychrynllyd".
"Rwy' wedi ymweld a siarad â nifer o ffermwyr gwartheg ar draws Cymru," meddai.
"Rwy'n gwybod o wrando pa mor anodd yw ymdopi gyda goblygiadau TB."
Wrth annerch Aelodau Cynulliad yn y Senedd ddydd Mawrth, ychwanegodd y byddai'n rhaid cyfiawnhau difa ar y sail ei fod yn hanfodol wrth leihau nifer achosion diciâu mewn gwartheg.
"Ar hyn o bryd dwi ddim wedi fy modloni fod difa moch daear yn hanfodol wrth leihau nifer achosion y clefyd ymhlith gwartheg," meddai.
Bwriad y weinyddiaeth flaenorol, y glymblaid Llafur-Plaid, oedd trefnu cynllun peilot fel rhan o ymdrech i waredu'r clefyd.
Ond penderfynodd Llafur eu bod am ystyried agweddau gwyddonol y mater.
Dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach: "Roedd y strategaeth waredu flaenorol wedi cael sêl bendith holl bleidiau'r Cynulliad yn ogystal â chefnogaeth lwyr y diwydiant.
"Mae'r tro pedol yma'n bradychu cefn gwlad Cymru. Bydd ffermwyr mewn ardaloedd TB yn teimlo nad oes gobaith mwyach. Dyw brechu moch daear ddim yn ddigon effeithiol i waredu'r clefyd."
Roedd cadwriaethwyr wedi dweud eu bod yn erbyn difa ac ar ôl cyhoeddiad Mr Griffiths dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru fod ymchwil gwyddonol yn cefnogi ei benderfyniad.
'Effeithlon'
Yn ôl Rachel Sharp, prif weithredwr y mudiad: "Mae gwyddoniaeth a gwaredu hirdymor y clefyd hwn wedi ennill y dydd heddiw.
"Mae'r penderfyniad yn paratoi'r ffordd i Gymru gyflwyno cynllun brechu llawn fydd yn y pen draw yn profi'n gynaliadwy ac effeithlon."
Dywedodd llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd, fod y Llywodraeth Lafur wedi torri cytundeb gyda ffermwyr a fwriadwyd i waredu'r diciâu mewn gwartheg o Gymru - gan adael y berthynas rhwng y llywodraeth a'r gymuned amaethyddol ar ei phwynt isaf ers datganoli.
"Roedden nhw (y gweinidogion Llafur) o blaid y pecyn o fesurau i wrthweithio'r diciâu mewn gwartheg pan oedden nhw mewn clymblaid gyda Phlaid Cymru - nawr maen nhw wedi troi eu cefnau ar y ffermwyr ac yn anwybyddu'r dioddefaint i dda byw a bywyd gwyllt sy'n deillio o'r clefyd dychrynllyd hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011