Amseroedd ymateb ambiwlansys o dan y lach
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi eu cyhuddo o fethiannau systemig yn dilyn dau achos gwahanol pan fethodd ambiwlansys gyrraedd achosion brys ar amser er bod cerbydau ar gael.
Roedd y ddau ddyn yn byw ger Pontypridd ond ni chafodd ambiwlansys eu hanfon o'r tu allan i'r rhanbarth gan anfonwyr.
Bu farw'r ddau ddyn yn yr ysbyty ond yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nid oedd yn bosib cysylltu eu marwolaethau'n uniongyrchol ag amseroedd ymateb yr ambiwlansys.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod yn cydnabod bod angen gwelliannau.
'Modd hollol annigonol'
Bu'n rhaid i un o'r dynion aros am ambiwlans am ddwy awr a 45 munud a bu'n rhaid i'r dyn arall aros am 51 munud.
Gwnaeth yr Ombwdsmon, Peter Tyndall, naw argymhelliad gan gynnwys dweud wrth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i arolygu'r ffordd y mae ambiwlansys yn cael eu hanfon at achosion brys.
Dywedodd fod ganddo amheuaeth ynglŷn â'r modd yr oedd yr ymddiriedolaeth yn darparu eu gwasanaeth i gleifion.
Dywedodd wrth yr ymddiriedolaeth y dylent ymddiheuro i deuluoedd y dynion, sydd heb gael eu henwi, a'u talu £2,000 yr un am y "modd hollol annigonol" y deliodd yr ymddiriedolaeth â'r cwynion yn dilyn y marwolaethau.
Yn ôl adroddiad Mr Tyndall fe ffoniodd merch y dyn cyntaf 999 am 11.10pm ar Fehefin 27, 2009 wedi iddo gwympo yn ei gartref.
Fe ffoniodd hi rif 999 unwaith eto dros awr yn ddiweddarach gan ddweud bod ei gyflwr yn gwaethygu.
Llawdriniaeth
Yn ystod trydydd galwad ffôn am 12.56am dywedodd merch y dyn fod ei thad yn cael trafferth anadlu a'i fod yn anymwybodol yn achlysurol.
Ffoniodd merch y dyn ddwywaith arall cyn i ambiwlans gyrraedd am 1.57am.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw cafodd y dyn llawdriniaeth i osod clun newydd ond bu farw o fethiant y galon bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Canfu ymchwiliad y gallai hyd at 11 cerbyd gwasanaeth brys fod wedi cael eu hanfon yn ystod y cyfnod yr oedd y dyn yn aros am ambiwlans.
Roedd yr ail ddyn wedi dechrau profi trafferthion anadlu yn ystod oriau mân y bore ar Orffennaf 19 2010 a ffoniodd ei wraig rif 999 am 6.09am.
Roedd ambiwlans ar gael 37 munud yn ddiweddarach ond ni chyrhaeddodd tan 7am oherwydd bu'n rhaid i'r cerbyd newid silindrau ocsigen.
'Ymateb cychwynnol'
Bu farw'r dyn dair awr yn ddiweddarach o drawiad y galon ac y mae ei deulu yn credu bod yr oedi wedi effeithio ar ei iechyd.
Unwaith eto roedd cerbydau ymateb o'r tu allan i'r rhanbarth ar gael.
Dywedodd adroddiad Mr Tyndall: "Mae gen i amheuon parhaol ynglŷn â'r modd y mae'r ymddiriedolaeth yn darparu eu gwasanaeth i gleifion.
"Yn amlwg mae'r ymddiriedolaeth wedi cydnabod methiannau o ran adnabod adnoddau y tu allan i'r dalgylch ac mae'r staff oedd ynghlwm â'r achosion hyn wedi cael eu hatgoffa.
"Ond rwyf yn fwy pryderus bod y methiant hwn i edrych y tu allan i ffiniau'r rhanbarth yn gynrychiadol o ddiwylliant trefniadaeth ehangach o weithredu y tu mewn i ffiniau'r rhanbarth."
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod yn estyn eu "ymddiheuriadau dwysaf a diffuant" i'r ddau deulu oedd ynghlwm â'r achosion hyn.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r ymddiriedolaeth wedi datblygu cynlluniau manwl i gyflawni'r argymhellion sydd wedi'u hamlinellu.
"Rydym wedi darparu ymateb cychwynnol ar gyfer yr Ombwdsmon.
"Mae'r ymddiriedolaeth yn cydnabod y gwelliannau mae'n rhaid inni gyflawni, ac rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau clinigol diogel o safon uchel i gleifion ar hyd a lled Cymru mewn partneriaeth â byrddau iechyd.
"Mae'r ffordd y mae'r ymddiriedolaeth yn ymateb i achosion wedi cael, ac yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ymateb i'r achosion hynny sydd fwyaf difrifol ac sy'n peryglu bywydau yn gyntaf.
"Mae pob cwyn rydym yn ei dderbyn yn cael ei drin yn ddifrifol iawn ac rydym yn gwneud gwelliannau parhaus i'n gweithdrefnau cwynion mewnol i sicrhau bod unrhyw un sy'n cysylltu â gwasanaeth ambiwlans Cymru yn derbyn ymateb amserol a thrylwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012