Lwfans newydd i ardaloedd menter

  • Cyhoeddwyd
George OsborneFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

George Osborne: Hon yw ei drydedd Gyllideb

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd lwfans busnes yn cael ei sefydlu ar gyfer ardaloedd menter, gan gynnwys un yng Nglannau Dyfrdwy.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod araith Cyllideb George Osborne ddydd Mercher.

Dywedodd mai ei fwriad fyddai "gwobrwyo gwaith" a "rhyddhau miloedd o bobl rhag tlodi".

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna bump o ardaloedd menter yn cael eu sefydlu yng Nghymru.

Y pedair arall yw Ynys Môn, Caerdydd, Glyn Ebwy a Sain Tathan.

Amrywio

Mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i sefydlu ardaloedd tebyg ym Mhenfro a Thrawsfynydd.

Er bod gan Lywodraeth Cymru'r grym i sefydlu'r ardaloedd dim ond Llywodraeth San Steffan all amrywio'r lwfans busnes.

Yn ei drydedd gyllideb dywedodd y Canghellor y byddai cyrff arolygu yn ystyried cyflwyno cyflog rhanbarthol ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus.

"Heddiw rydym yn cyhoeddi tystiolaeth y mae'r Trysorlys yn ei chyflwyno i'r cyrff arolgyu.

"Bydd gan rai adrannau yr ospsiwn i symud i gytundebau lleol ar gyfer rhai gweision sifil."

O ran trethi dywedodd y byddai'r raddfa uchaf yn gostwng o 50c i 45c yn Ebrill 2013.

4,000

Pobl sy'n ennill dros £150,000 sy'n talu'r raddfa uchaf a'r gred yw y bydd y newid yn effeithio ar tua 4,000 o bobl yng Nghymru.

Yn y cyfamser, mae trothwy y lefel isaf o drethi wedi ei godi.

Bydd pobl ar y raddfa isaf yn dechrau talu trethi ar ôl ennill £9,205. Y trothwy presennol yw £8,105.

Mae disgwyl i'r newid olygu y bydd 42,000 yng Nghymru yn cael eu rhyddhau rhag talu trethi yn llwyr ac y bydd 1,100,000 ar eu hennill.

Bydd budd-dal plant yn dod i ben i'r rhai sy'n ennill mwy na £60,000 y flwyddyn.