Iechyd: "Rhaid newid gwasanaethau"

  • Cyhoeddwyd
nyrsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Conffederasiwn GIG Cymru y bydd yn rhaid newid gwasanaethau i arbed mwy o arian

Ni fydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gallu torri mwy o gostau heb wneud newidiadau radical i ysbytai yn ôl y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru.

Dywed Conffederasiwn GIG Cymru fod modd cyrraedd targedau cynilo o £300m ond bydd yn rhaid newid gwasanaethau i arbed mwy o arian.

Yn ôl Gweinidogion bydd angen darparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy o safon uchel wrth gyflwyno unrhyw newidiadau. .

Mae Llywodraeth Cymru yn beio setliad cyllideb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am yr angen am newidiadau.

Dadleuol

Dywedodd Helen Birtwhistle, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru: "Mae'n debyg y bydd rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau dorri'r gôt yn ôl y brethyn.

"Mae tua £300m o gynilion wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol hon a £1 biliwn yn ystod y ddwy flynedd a hanner i dair blynedd ddiwethaf - ac mae hynny'n llwyddiant mawr.

"Ond ni allwn gynilo arian o'r un gwasanaethau bob blwyddyn.

"Mae'n rhaid inni newid gwasanaethau mewn ffordd radical."

Mae cynigion i symud gwasanaethau ysbytai yng ngorllewin Cymru a'r canolbarth wedi bod yn ddadleuol ac o ganlyniad bu protestiadau a chyfarfodydd cyhoeddus yn Llanelli ac Aberystwyth.

Yn ôl Ms Birthwhistle, newid y drefn yw'r unig ffordd i wneud y gwasanaeth iechyd yn fwy effeithlon.

"Mae'n rhaid inni sylweddoli nad ysbytai yn unig sy'n gallu darparu gofal iechyd," ychwanegodd.

'Technoleg newydd'

Mae byrddau iechyd eisoes o dan gryn bwysau i gynilo, ac ym mis Tachwedd y llynedd rhybuddiodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths y byrddau iechyd nad oedd "lle i gamgymeriadau".

Mae tîm sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cael y dasg o arbed £87.7 miliwn.

"Mae'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn gwario £6 miliwn y flwyddyn ar glytiau lliniaru poen ond roedden ni'n gwario £1 miliwn y flwyddyn ar ben ein hunain," meddai Dr George Findlay, cyfarwyddwr adrannol gwasanaethau arbenigol y bwrdd iechyd.

"Roedden nhw'n cael eu defnyddio yn lle cyffuriau i leddfu poen, sy'n rhatach."

Yn ôl Dr Findlay nid yw'r bwrdd iechyd yn debygol o orwario ei gyllideb flynyddol yn dilyn y cynilo.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 43% o'u cyllideb yn cael ei wario ar wasanaethau iechyd a gofal, ond maent yn beio setliad cyllideb am orfod cynilo.

Dywedodd datganiad gan Lywodraeth Cymru: "Mae hyn yn golygu y bydd rhaid inni ddarganfod ffyrdd newydd ac arloesol i ddarparu rhwng 4% a 5% o arbedion effeithlonrwydd yn flynyddol o ran y gwasanaeth iechyd.

"Ond fe fyddai'n rhesymol i ddisgwyl y byddai darparu gwasanaethau'n fwy effeithiol a defnyddio technoleg newydd yn arbed arian."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol