'Cofio Gwynfor'

  • Cyhoeddwyd
Gwynfor EvansFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Gwynfor Evans oedd y cyntaf i gipio sedd yn San Steffan ar ran Plaid Cymru ym 1966

Mae pwyllgor yng Nghaerfyrddin yn annog pobl Cymru i ystyried cynnal dathliadau yn ystod 2012 i gofio am Gwynfor Evans.

Maen nhw hefyd am gael cofeb iddo yn nhre Caerfyrddin.

Yn ôl Pwyllgor Cofio Gwynfor, mae eleni'n gyfle i ddathlu canmlwyddiant geni'r gwleidydd fu farw yn 2005.

Roedd Gwynfor yn un o brif wleidyddion Cymru drwy gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Bu'n Llywydd Plaid Cymru o 1945 hyd at 1981 a'r cyntaf i gipio sedd yn San Steffan ar ran y Blaid ym 1966.

'Ymprydio'

Yn ôl Alun Lenny, aelod o'r pwyllgor, roedd "cyfraniad Gwynfor i fywyd ein cenedl yn aruthrol ac amrywiol".

"Sicrhaodd sefydlu S4C drwy fygwth ymprydio hyd at farwolaeth ym 1980," meddai.

"Ef oedd unig gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gaerfyrddin am 25 mlynedd.

"Yn ogystal roedd e'n heddychwr a Christion ac yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr.

"Bu hefyd yn awdur toreth o lyfrau a thaflenni dylanwadol yn Gymraeg a Saesneg."

Cafodd rhai digwyddiadau lleol eu trefnu'n barod i ddathlu canmlwyddiant geni Gwynfor yn Y Barri yn 1912.

'New York Times'

"Fel Siryf Tref Caerfyrddin, rwy'n teimlo bod yr hyn ddigwyddodd yma yn 1966 â lle pwysig a chyffrous iawn yn hanes ein tref a hanes Cymru," meddai Mr Lenny.

"Gan fod bron hanner canrif wedi mynd heibio, rwy'n gobeithio y bydd pobol, beth bynnag eu daliadau gwleidyddol, yn barod i gydnabod bod Gwynfor wedi dwyn enw Caerfyrddin i sylw byd-eang bryd hynny.

"Wedi'r cwbl, nid yn aml y mae enw Sir Gâr ar dudalennau'r New York Times."

Mae penddelw o Gwynfor yn Llyfrgell Y Barri, ei dref enedigol, a gosodwyd maen mawr i'w gofio ar y Garn Goch ger Llandeilo lle gwasgarwyd ei lwch.

Ond mae rhai'n awyddus i weld cofeb barhaol i Gwynfor yng nghanol tref Caerfyrddin a hynny erbyn 2016 - hannercan-mlwyddiant ei fuddugoliaeth ym 1966.

Mae'r pwyllgor yn gwahodd pobl i anfon syniadau cyn gynted â phosibl, at: Pwyllgor Cofio Gwynfor, d/o Peter Hughes Griffiths, Llaindelyn, 20 Waundew, Caerfyrddin, SA31 1HE.

Bydd y pwyllgor yn cyhoeddi manylion y gofeb a'r apêl i godi arian tuag ati ar Fedi 1 eleni, sef dyddiad pen-blwydd Gwynfor Evans.