Prif filfeddyg: Rhaid brechu moch daear

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christianne Glossop wedi cefnogi'r cynllun i ddifa moch daear

Mae Prif filfeddyg Cymru wedi datgan bod brechu moch daear mewn rhannau o'r wlad yn gyfraniad gwerthfawr i'r ymgyrch i gael gwared â diciâu mewn gwartheg.

Yn y gorffennol mae Christianne Glossop wedi son ei bod hi'n gefnogol i'r cynllun i ddifa moch daear er mwyn atal yr haint rhag lledu i wartheg.

Yr wythnos ddiwethaf penderfynodd Llywodraeth Cymru roi'r gorau i gynlluniau dadleuol i ddifa moch daear.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, ei fod am gyflwyno cynllun brechu ar ôl ystyried y dystiolaeth wyddonol yn ofalus.

Cynllun brechu

Y llynedd cafodd y cynllun difa ei atal dros dro wedi i adolygiad gwyddonol gael ei gynnal ar ôl Etholiad y Cynulliad.

Roedd y llywodraeth flaenorol wedi bwriadu trefnu cynllun peilot i ddifa moch daear yn y gorllewin.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Glossop nad oedd ei barn am ddifa moch daear neu eu brechu "bellach ddim yn rhan o'r drafodaeth".

Ond mae Mr Griffiths wedi gwrthod y cynllun, gan ddweud y bydd cynllun brechu pum-mlynedd yn dechrau yng ngogledd Sir Benfro, lleoliad y cynllun difa ar un adeg.

Dywedodd Ms Glossop wrth raglen Radio Wales 'Country Focus', na fyddai un mesur yn ddigon i gael gwared â'r haint.

Ychwanegodd ei fod "yn bwysig ein bod yn ymladd pob ffynhonnell heintus".

Mae'r cyhoeddiad wedi siomi undebau ffermwyr a'r gwrthbleidiau.

Bywyd gwyllt

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod penderfyniad y llywodraeth yn "fradychiad llwfr" ond dywedodd y RSPCA eu bod "yn hapus dros ben ac yn teimlo rhyddhad".

Dywedodd Ms Glossop ei bod yn gallu deall os oedd ffermwyr yn meddwl bod penderfyniad y Llywodraeth yn "gam am yn ôl".

Ychwanegodd fod Mr Griffiths wedi ystyried "nid yn unig y dystiolaeth wyddonol ond y dystiolaeth gyfreithiol hefyd".

"Dydyn ni ddim yn gwybod os bydd brechu'r moch daear yn cynnig y dull priodol o ymdrin â'r haint ymysg bywyd gwyllt," meddai.

Dywedodd mai'r gred yw nad yw tri chwarter o'r moch daear yn yr ardaloedd sy'n cael eu harchwilio wedi'u heffeithio gan yr haint.

Ychwanegodd nad oedd ei barn am ddifa moch daear neu eu brechu "bellach ddim yn rhan o'r drafodaeth".

Bydd y cyfweliad gyda Phrif-filfeddyg Cymru yn cael ei ddarlledu ar raglen Country Focus ar Radio Wales am 05:30 Ddydd Llun Mawrth 26.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol