Ail-greu murlun Y Siartwyr yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Scene from the muralFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r murlun yn darlunio'r gwrthdaro rhwng protestwyr democratiaeth a milwyr ger Gwesty'r Wetsgate yng Nghasnewydd yn 1839

Bydd darn o gelf hanesyddol yng nghanol Casnewydd yn cael ei ail greu gan fab yr artist gan ddefnyddio teiliau yn llyfrgell y ddinas.

Bydd mosäig 115 troedfedd (35 metr) yn darlunio gwrthryfel y Siartwyr yn 1839 yn cael ei dynnu lawr er mwyn gwneud lle i ddatblygu canolfan siopa gwerth £100 miliwn yng nghanol y ddinas.

Cafodd y murlun yn Sgwâr John Frost ei greu yn 1978 gan yr artist Kenneth Budd.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd prosiect gwerth £22,000 gan ei fab Oliver ei ddewis fel gwaith newydd i'r safle.

Roedd son am chwalu'r murlun gwreiddiol yn 2009, ond fe gafodd datblygiad oedd wedi ei gynllunio bryd hynny ei ddiddymu.

Fe fydd y datblygiad newydd yn digwydd, a dywedodd y cyngor y byddai'n amhosib cadw'r murlun yng nghanol y ddinas o dan y cynllun newydd.

'Cenhedloedd i ddod'

Mae gan Mr Budd yr hawlfraint i'r murlun sy'n darlunio'r gwrthryfel gwaedlyd gafodd ei arwain gan John Frost - ynad a maer Casnewydd a gafodd ei orfodi o'i swydd oherwydd ei safbwyntiau radical.

Cyn i ganlyniad yr ymgynghoriad gael ei gyhoeddi, dywedodd Mr Budd: "Hoffwn weld y darlun yn cael ei gadw ar ryw ffurf.

"Mae'n waith celf gwych, ac yn addysgol a deniadol.

"Rwy'n deall hefyd mai rhyw fath o ddatblygiad ddaeth â'r murlun i Gasnewydd i ddechrau, ac fe fydd rhaid iddo newid wrth i newid ddigwydd."

Dywedodd Mike Hamilton, aelod o gabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb am hamdden a diwylliant: "Er ei bod yn biti nad oes modd cadw'r murlun gwreiddiol, bydd yr opsiwn yma'n ei weld yn cael ei ail-greu lathenni o'i gartref gwreiddiol, ac fe fydd yn cael ei arddangos yno er mwyn i genhedloedd i ddod gael ei weld a'i fwynhau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol