Arestio dyn 18 oed ar amheuaeth o lofruddio merch, 17

Wheatley Place
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth merch 17 oed yn Sir Caerffili.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon tua 07:15 fore Iau, yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi cael eu hanafu'n ddifrifol.

Fe wnaeth yr heddlu - gan gynnwys swyddogion arfog - fynychu, ac fe gafodd merch leol 17 oed ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Mae menyw leol 38 oed hefyd wedi cael ei chludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Mae dyn 18 oed o Drecelyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Wheatley Place
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu Gwent y bydd ganddyn nhw fwy o bresenoldeb yn yr ardal wedi'r digwyddiad

Dywed y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Philip O'Connell o Heddlu Gwent: "Gallwn gadarnhau nad ydym yn edrych am unrhyw un arall yn ymwneud â'r digwyddiad yma.

"Rydym yn deall y gall digwyddiadau o'r fath achosi pryder, ac mae'n debygol y bydd trigolion yr ardal yn gweld mwy o swyddogion yn yr ardal wrth i ni barhau â'n hymholiadau."

Maen nhw'n annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig