Dathlu ddwywaith yn Llanerchaeron

  • Cyhoeddwyd
LlanerchraeonFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Cynlluniwyd y tŷ gan y pensaer John Nash yn y 18fed ganrif

Mae un o dai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu 10 mlynedd wedi ei adnewyddiad ac ail-agor i'r cyhoedd.

Mae ystâd Llanerchaeron ger Ciliau Aeron, yn agos i Aberaeron yng Ngheredigion.

Yn ogystal mae aelod o staff a weithiodd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 31 mlynedd wedi derbyn MBE fel cydnabyddiaeth o'i gwaith yn codi arian i'r ymddiriedolaeth.

Adeiladwyd tŷ Llanerchaeron yn y 1790au a chafodd ei gynllunio gan y pensaer John Nash.

Cafodd ei gomisiynu gan Cyrnol William Lewis a bu'r ystâd yn yr un teulu am 10 genhedlaeth.

Pan fu farw perchennog olaf yr ystâd, John Powell Ponsonby Lewes, ym 1989, gadawyd Llanerchaeron i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Erbyn hyn roedd y tŷ a'r gerddi mewn cyflwr gwael.

Wedi prosiect i'w adfer a gostiodd £4 miliwn, agorodd i'r cyhoedd yn 2002.

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Mae gardd â wal o'i chwmpas yn ran o ystâd Llanerchaeron

Bu Carol Greenstock yn aelod o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 31 mlynedd nes iddi ymddeol llynedd a gweithiodd ar nifer o brosiectau i godi arian i'r ymddiriedolaeth.

Un o'r prosiectau mwyaf iddi weithio arno oedd codi arian ar gyfer Llanerchaeron a chofiodd sut oedd yn teimlo pan ail-agorodd yr ystâd.

"Roeddwn wrth fy modd," meddai.

"Yn ystod y dathliad heddiw cawsom weld lluniau o'r tŷ a'r gerddi cyn yr holl waith ac roeddech yn sylweddoli faint o waith sydd wedi digwydd.

"Roeddwn i'n teimlo'n falch iawn fy mod wedi gallu helpu."

Derbyniodd Llanerchaeron 38,000 o ymwelwyr yn ystod 2011.

"Mae'n atyniad poblogaidd iawn," dywedodd Ms Greenstock.

Dywedodd fod pobl wedi dod o dros Gymru i gyd i rannu'r dathliadau wrth iddi dderbyn yr MBE heddiw.

"Teimlais fel petai byddai fy nghalon yn byrstio gyda balchder," meddai.

"Dwi'n hoff iawn o'r tŷ a'r gerddi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol