Cyn-brif weinidog wedi'i rwystro rhag pleidleisio o'r car

Roedd Vaughan Gething yn brif weinidog am gyfnod yn 2024
- Cyhoeddwyd
Cafodd y cyn-brif weinidog Vaughan Gething ei rwystro rhag cymryd rhan mewn pleidlais yn y Senedd nos Fercher oherwydd ei fod mewn car.
Er bod modd i Aelodau o'r Senedd (ASau) bleidleisio pan nad ydynt yn y siambr, mae gofyn iddyn nhw beidio â gwneud hynny o gerbyd, neu wrth deithio.
Cafodd Mr Gething ei weld mewn car gan ASau eraill ar yr alwad Zoom oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithio o bell. Gwelwyd AS arall - Lee Waters - yn gwneud yr un peth yr wythnos ddiwethaf hefyd.
Mae Mr Gething wedi cael cais am sylw, tra bod Mr Waters wedi dweud wrth BBC Cymru fod ganddo gyfrifoldebau gofal plant y diwrnod hwnnw a'i fod wedi trefnu i bleidleisio o bell ond galwyd y bleidlais yn gynnar.
- Cyhoeddwyd8 Medi 2024
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024
Ymddiheurodd y cyn-weinidog trafnidiaeth Lee Waters i'r Llywydd Elin Jones ar 21 Medi ar ôl iddo gael ei weld mewn car gan yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd Sam Kurtz, yn ystod pleidlais ar ddeddfwriaeth bysiau Llywodraeth y DU.
Y diwrnod canlynol, atgoffodd Ms Jones aelodau o'r Senedd o'r canllawiau.
"Fe gododd mater yn ystod y cyfnod pleidleisio neithiwr lle bwriodd aelod bleidlais tra oedd mewn cerbyd, sy'n groes i'r canllawiau sydd wedi eu rhoi i aelodau," meddai.
"Mae'r aelod wedi ymddiheuro i fi, a dwi wedi penderfynu y bydd y bleidlais yn sefyll ar yr achlysur yma.
"...I fod yn glir, ni ddylai aelod bleidleisio tra'i fod mewn cerbyd neu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu wrth deithio - felly, hynny fydd yn cael ei weithredu o hyn ymlaen."
Wythnos yn ddiweddarach, gwelwyd Vaughan Gething mewn car gan ASau yn ystod y cyfnod pleidleisio ddydd Mercher.
O ganlyniad, dywedodd David Rees, y Dirprwy Lywydd, na fyddai'n derbyn y bleidlais.
Ni wnaeth Mr Rees enwi'r person dan sylw ond mae BBC Cymru yn deall o sawl ffynhonnell fod Mr Gething wedi'i weld ar sgriniau'r siambr.
'Amharchus'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: "Mae pleidleiswyr Cymru yn ethol ASau i'r Senedd, nid eu soffas, cadeiriau breichiau na cheir. Mae ceisio pleidleisio o gerbyd yn gwbl amharchus.
"Mae'r pandemig drosodd ers tro ac mae'n bryd dod â phresenoldeb a chyfranogiad rhithwir yng ngweithredoedd y Senedd i ben."
Dywedodd Mr Waters wrth BBC Cymru: "Cymerais ran yn y cyfarfod llawn o bell fel y mae'r rhan fwyaf o aelodau'n ei wneud o bryd i'w gilydd... mae'r hyblygrwydd i bleidleisio o bell pan fo angen yn bwysig."
Mae Vaughan Gething wedi cael cais am ymateb.