'Siom' gwleidyddion am gyhoeddiad niwclear cwmnïau

  • Cyhoeddwyd
Atomfa WylfaFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Y ddau gwmni ddim yn parhau â'u cynlluniau i godi atomfa newydd ar safle'r Wylfa.

Mae gwleidyddion ac eraill wedi dweud bod penderfyniad cwmnïau E.ON a RWE npower i dynnu allan o godi gorsafoedd niwclear newydd ym Mhrydain yn "siomedig".

Fyddan nhw ddim yn parhau â'u cynlluniau i godi atomfa newydd ar safle'r Wylfa.

Mae'r ddau wedi dweud y byddan nhw'n chwilio am berchnogion i gwmni Horizon, eu cwmni ar y cyd gafodd ei sefydlu i ddatblygu busnes pŵer niwclear yn y DU.

Y bwriad gwreiddiol oedd codi atomfa yn y Wylfa ac un arall yn Oldbury-on-Severn yn Sir Gaerloyw erbyn 2025 o dan gynlluniau ynni Llywodraeth Prydain.

Fe ddywedodd Gweinidog Ynni San Steffan, Charles Hendry: "Mae'r partneriaid (y ddau gwmni) wedi egluro bod eu penderfyniad ar sail pwysau yn rhywle o fewn y busnes ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw amheuaeth am rôl ynni niwclear yn y DU yn y dyfodol.

'Aruthrol'

"Mae ein rhaglen ynni niwclear yn llawer mwy nag un consortiwm ac mae 'na ddiddordeb gwirioneddol o hyd.

"Parhau y mae cynlluniau EDF/Centrica a Nugen ac mae safleoedd Horizon yn parhau i gynnig cyfle gwych i'r farchnad gyfan."

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen, fod y cyhoeddiad yn "ergyd aruthrol i'r gymuned leol, yr economi leol a'r diwydiant ynni.

"Mae Horizon wedi gwneud hi'n glir bod y penderfyniad strategol o ganlyniad i resymau strategol yn Yr Almaen.

"Safle'r Wylfa o hyd yw'r opsiwn gorau ar gyfer datblygiad niwclear a byddaf yn cyd-weithio gyda Horizon, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ac yn astudio'r holl opsiynau posib i sicrhau swyddi.

"Mae 'na lot o fuddsoddiad wedi bod eisoes a'r hyn sydd bwysica' ar gyfer y dyfodol yw swyddi."

'Cannoedd o swyddi'

Yn ôl Ieuan Wyn Jones, Aelod Cynulliad Ynys Môn, roedd y cyhoeddiad yn "hynod siomedig" i Ynys Môn "o ystyried y gallai'r prosiect ddarparu cannoedd o swyddi o ansawdd dda i bobl leol ..."

"Fe fyddaf yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a llywodraethau Cymru a San Steffan i sicrhau bod cwmni arall yn rhan o'r prosiect."

Dywedodd arweinydd y cyngor sir, Bryan Owen, mai'r Wylfa oedd y safle gorau ym Mhrydain ar gyfer pwerdy niwclear newydd.

"Mae Cyngor Sir Ynys Môn, drwy'r Rhaglen Ynys Ynni, wedi ymrwymo'n llwyr at sicrhau buddsoddiad newydd yn ogystal â chynlluniau cynhyrchu ynni eraill ar gyfer Cymru."

Ychwanegodd y byddai'r cyngor yn cydweithio gyda Horizon a'i gyfranddalwyr, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn dod o hyd i fuddsoddwr newydd ar gyfer safle'r Wylfa.

Mae Sasha Wynn Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn, wedi dweud: "Does dim dwywaith bod hyn yn gam mawr yn ôl ond mae'r holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers sefydlu'r Rhaglen Ynys Ynni yn siŵr o ddenu buddsoddwyr eraill.

"Yn wir, mae'r gwaith wedi datblygu sail gadarn ar gyfer unrhyw fuddsoddwr newydd."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod y newyddion "yn hynod siomedig," gan roi'r bai ar newid polisi at ynni niwclear Yr Almaen y llynedd.

"Er hynny, rydym yn ymwybodol bod 'na lawer o ddiddordeb yn y safle ar Ynys Môn a bod hynny wedi dod yn amlwg yn ystod y dydd."

'Diddordeb'

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth San Steffan a'i fod wedi siarad eisoes â'r Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan: "Dwi'n ffyddiog mai Wylfa yw'r safle gorau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o atomfeydd niwclear.

"Mae gan Ynys Môn bron 50 mlynedd o brofiad yn y diwydiant niwclear ac mae'r sgiliau gorau yno.

"... bydd y safle yma yn atyniadol i fuddsoddwyr eraill."

Dywedodd yr Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Aled Roberts, fod y cyhoeddiad yn "newydd trist i Ynys Môn".

"Roedd polisi datblygu economaidd yr ynys yn seiliedig ar adeiladu Wylfa B i ryw raddau wrth iddyn nhw sôn am ynys ynni.

"Mae'n debyg y bydd rhaid cael trafodaethau brys efo'r cyngor sir i weld be' yn union sy'n digwydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol