Ansicrwydd am ddyfodol atomfa newydd i'r Wylfa wrth i gwmnïau dynnu'n ôl

  • Cyhoeddwyd
WylfaFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na fwriad i godi gorsaf newydd 6,000 megawat erbyn 2025

Mae cwmnïau E.ON a RWE npower wedi dweud na fyddan nhw'n parhau i godi gorsafoedd niwclear newydd ym Mhrydain.

Felly ni fyddan nhw yn parhau â'u cynlluniau i godi atomfa newydd ar safle'r Wylfa.

Dywedodd RWE npower ac E.ON fod y cyhoeddiad ar ôl i'r ddau gwmni gynnal adolygiadau strategol.

Mae'r ddau wedi dweud y byddan nhw'n chwilio am berchnogion i gwmni Horizon, eu cwmni ar cyd gafodd ei sefydlu i ddatblygu busnes pwer niwclear yn y DU.

Y bwriad gwreiddiol oedd codi atomfa yn y Wylfa ac un arall yn Oldbury-on-Severn yn Sir Gaerloyw erbyn 2025 o dan gynlluniau ynni Llywodraeth Prydain.

Byddai atomfa newydd Wylfa B yn 6,000 megawat.

Fukushima

Mae safle'r Wylfa yn un o wyth safle eisoes yn y DU sydd wedi eu clustnodi ar gyfer gorsaf newydd erbyn 2025.

Ond mae adroddiadau diweddar cwmnïau wedi codi amheuon am gostau wedi i gynlluniau niwclear gwledydd eraill yn Ewrop gael eu gwrthod wedi trychineb Fukushima yn Japan y llynedd.

Mae'n debyg bod y cwmnïau yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth Yr Almaen i gael gwared ag ynni niwclear ar ôl y drychineb.

Roedd cwmni Horizon wedi gobeithio cychwyn ar y gwaith adeiladu £8 biliwn ar Ynys Môn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae wedi bod yn datblygu opsiynau ar gyfer dau neu dri adweithydd ger yr orsaf bresennol fydd yn gweithredu tan 2012.

Dywedodd eu prif swyddog gweithredol, Alan Raymant, eu bod yn ddiolchgar am gefnogaeth y ddau gwmni ers 2009.

"Mae hyn wedi caniatáu i ni gyflwyno prosiectau hyd at lefel uchel iawn.

"Rydym hefyd yn hynod falch ein bod yn cael cefnogaeth gyhoeddus eang a gwleidyddol ...

"Rydym wedi ennill tir mawr wrth ddatblygu'r safleoedd, yn enwedig yn Yr Wylfa."

'Rhwystrau'

Yn ôl RWE ac E.ON, mae 'na sawl ffactor wedi newid ers 2009, gan gynnwys y sefyllfa economaidd fydeang a newidiadau i'r modd y mae'r diwydiant ynni niwclear yn cael ei waredu yn Yr Almaen.

"Gwnaed y penderfyniad yng nghyd-destun rhwystrau ariannol ehangach sy'n wynebu grŵp E.ON ac RWE npower," meddai eu datganiadau.

Fe roddodd prif swyddogion RWE, E.ON a Horizon roi gwybod i'r staff yn eu pencadlys ger Caerloyw ddydd Iau.

Dywedodd Volker Beckers, Prif Weithredwr RWE npower, eu bod yn hyderus y byddai prosiectau Horizon i ddatblygu safleoedd ynni niwclear newydd i'r DU yn arbennig.

Dymunodd y gorau i'r gweithwyr.

"Rydym am ddiolch hefyd i drigolion Wylfa ac Oldbury, ein partneriaid busnes a phawb sydd wedi cydweithio gyda ni dros y blynyddoedd.

"Oherwydd cryfder y gefnogaeth, yn enwedig ar Ynys Môn, rydym yn parhau i gredu bod gan bŵer niwclear ran allweddol yn natblygiad ynni niwclear y DU."

Ychwanegodd Dr Tony Cocker, Prif Weithredwr E.ON yn y DU, fod eu "hymrwymiad i'r DU mor gryf ag erioed".

'Ergyd'

Yn ôl cynlluniau fe fyddai 5,000 o swyddi adeiladu yn cael eu creu gyda 800-1,000 o swyddi yn Wylfa B o 2020 ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Winston Roberts o'r cyngor sir y byddai gollwng Wylfa B yn dipyn o ergyd.

"Fe fydd hyn yn cael effaith aruthrol ar ogledd Môn.

"Dwi ddim yn gwybod be allwn ni wneud ond mae'n hynod o bwysig ein bod yn cael mwy o wybodaeth.

"Fe ddylen ni feddwl yn bositif ac (ystyried) a oes 'na gwmnïau eraill sydd am ymgymryd â'r gwaith."

Mae mudiad Pobl Atal Wylfa B (Pawb) wedi gwrthwynebu'r datblygiad ac wedi cynyddu eu protestiadau ers trychineb Fukushima.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Dylan Morgan ar ran y mudiad: "Ry'n ni wedi dweud ar hyd yr adeg - ochr yn ochr â'r dadleuon yn erbyn ynni niwclear fel technoleg beryglus - mae hi'n eithriadol o ddrud.

"Yn y cyd-destun ariannol caled presennol doedd dim gobaith, a fydd hi'n anodd iawn iddyn nhw werthu'r safle at ddiben niwclear i unrhyw gwmni arall.

"Rhaid edrych nawr i gyfeiriad technolegau eraill. Rhaid defnyddio (adnoddau) i hybu ynni adnewyddol yn ei holl amrywiaeth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol