Wylfa: Trafodaethau i ganfod buddsoddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal i ganfod buddsoddwyr wedi i gwmni oedd am godi atomfa newydd ar Ynys Môn dynnu'n ôl.
Mae E.on ac RWE npower yn chwilio am berchennog newydd i Horizon Nuclear Power, y cwmni oedd wedi ei ddewis ar y cyd i ddatblygu Wylfa B.
Dywed arbenigwyr, gwleidyddion ac arweinwyr yn y gymuned eu bod yn obeithiol o ganfod prynwr newydd.
Ond mae gwrthwynebwyr cynllun atomfa Wylfa B yn dweud y dylid chwilio am ffynonellau eraill o ynni.
Roedd y cwmnïau ynni Almeinig yn beio'r argyfwng economaidd byd-eang, datblygiadau yn y diwydiant niwclear yn yr Almaen a'r hyn y maen nhw'n eu galw'n "gostau cynnal a chadw cynyddol" y cynllun am y penderfyniad.
'Deniadol'
Ond dywedodd Volker Beckers, prif weithredwr RWE npower, bod Wylfa yn parhau i fod yn un o'r safleoedd niwclear "mwyaf deniadol" ar draws Ewrop.
Dywedodd: "I bob pwrpas fe all buddsoddwr newydd neidio'r ciw - mewn geiriau eraill bydd unrhyw fuddsoddwr newydd yn medru elwa o'r gwaith y mae'r tîm wedi ei wneud dros y tair blynedd diwethaf."
Roedd yr arbengiwr niwclear Malcolm Grimston yn cytuno. Dywedodd wrth BBC Cymru bod Horizon yn gyfle da i fuddsoddwyr eraill.
"Os na fyddwn ni'n codi atomfa i gymryd lle'r Wylfa ac atomfeydd eraill wrth iddyn nhw ddod i ddiwedd eu hoes, fe fyddwn ni'n mewnforio llawer o nwy gan greu llawer mwy o allyriadau carbon, a'n gadael yn agored i Rwsia godi eu prisiau neu ddiffodd y cyflenwad," meddai.
"Mae'r ddadl am barhau gyda niwclear cyn gryfed ag erioed felly, ac rwy'n credu y gallai cwmniau eraill ailasesu'r sefyllfa a chymryd mantais o'r cyfle yma."
Roedd Wylfa B yn rhan o gynllun Horizon i greu sawl atomfa i gynhyrchu 6,000MW o ynni ym Mhrydain, gan eu bod yn gweld Prydain fel lle oedd ag agwedd fwy cyfeillgar at ynni niwclear na nifer o wledydd eraill.
Ond roedd y cwmniau wedi mynegi pryder yn ddiweddar am gostau'n cynyddu fel sydd wedi cael ei weld ar gynllun niwclear eraill yn Ewrop.
'Ystyried doethineb'
Mynnodd Llywodraeth Cymru mai Ynys Môn yw'r dewis gorau yn y DU ar gyfer datblygiad niwclear.
Ond roedd y Blaid Werdd yng Nghymru yn croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud y byddai'n gymorth i ddiwydiannau adnewyddol.
Dywedodd eu harweinydd yng Nghymru, Pippa Bartolotti, na fyddai modd cynnal hen safleoedd niwclear.
"Mae'r Almaen a Japan yn gwybod bod y gost yn rhy uchel i'r amgylchedd," meddai. "Gyda safleoedd niwclear newydd yn mynd dros eu cyllidebau ac amheuaeth am ddiogelwch adeiladau newydd, o leia' mi fedrwn ni ystyried doethineb defnyddio'r math yma o ynni.
"Y ffordd ddeallus ymlaen yw buddsoddi mewn ynni adnewyddol fel solar, y llanw a gwynt. Bydd ynni gwyrdd yn darparu mwy o swyddi, bywyd mwy diogel a diogelwch y cyflenwad ynni."
Roedd Horizon Nuclear Power wedi gobeithio dechrau ar gynllun i godi atomfa gwerth £8 biliwn yn y Wylfa erbyn diwedd 2012.
Roedd wedi bod yn datblygu syniadau i greu dau neu dri adeweithydd newydd y drws nesaf i'r orsaf Magnox bresennol sydd wedi cael caniatad i barhau tan 2014.
Byddai'r cynllun wedi creu 5,000 o swyddi adeiladu wrth godi'r atomfa, gyda rhwng 800 a 1,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn yr orsaf pan fyddai'n agor yn 2020.
Cyhoeddodd Horizon ym mis Mawrth 2011 y byddai'n rhaid ystyried y cynllun eto yn dilyn daeargryn a tsunami Japan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012