Eglwys yng Nghanada yn chwilio am weinidog Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r unig eglwys Gymraeg yng Nghanada yn hysbysebu am weinidog newydd mewn papurau newydd yng Nghymru.
Y gred yw mai Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant, Toronto yn Ontario yw un o'r ychydig o eglwysi yng Ngogledd America sy'n dal i gynnal gwasanaethau Cymraeg.
Dechreuwyd yr eglwys yn 1907 a'r sylfaenwyr oedd dau Gymro - un o Ynys Môn ac un o Sir Ddinbych.
Dywedodd llefarydd ar ran yr eglwys eu bod yn chwilio am siaradwr Cymraeg er mwyn helpu "twf y diwylliant Cymraeg yn Toronto".
Yn ôl yr hysbyseb ar wefan yr eglwys, mae gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnal noson Sul gyntaf y mis.
'Teyrngarwch'
Mae tua 65 o bobl yn mynychu'r eglwys ac yn yr Ysgol Sul mae 12 o ddisgyblion.
"Yr hyn sy'n uno'r gynulleidfa yw teyrngarwch yr aelodau at Gymru a thraddodiad Cymru," meddai'r wybodaeth ar y wefan.
"Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r gynulleidfa wedi ymuno oherwydd eu bod yn fewnfudwyr o Gymru, o dras Gymreig neu mae ganddyn nhw gysylltiad drwy briodas."
Ymfudodd y Parch Deian Evans o Gricieth ac roedd yn weinidog am chwe blynedd cyn dychwelyd i ogledd Cymru yn 2010.
Cafodd gweinidog dros dro ei benodi ar yr eglwys.
Yn Ontario mae dros 200 o ieithoedd yn cael eu siarad.
Er mai ychydig iawn o bobl sy'n siarad Cymraeg yno, mae rhai'n ei hystyried yn un o'r "cerrig sylfaen" gwreiddiol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr eglwys wrth BBC Cymru: "Rydym yn chwilio yng Nghymru oherwydd ein blaenoriaeth yw dod o hyd i weinidog sy'n siarad Cymraeg er mwyn parhau ac ehangu'r diwylliant Cymraeg yn Toronto."