Protest yn erbyn newidiadau i gartre gofal ym Mhorthmadog

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr yn erbyn cynlluniau i gau cartref Hafod y GestFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn erbyn cynlluniau i gau cartref Hafod y Gest ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn

Cafoff gorymdaith ei chynnal ym Mhorthmadog gan ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r newidiadau i gartre' henoed Hafod y Gest.

Ar hyn o bryd mae 14 o breswylwyr yn cael gofal yn y cartre', sydd wedi bod yno ers y 1960au.

Ond mae cynlluniau gan Gyngor Gwynedd i newid y cartre' yn fflatiau hunangynhaliol.

Cafodd manylion y cynllun ei gyhoeddi flwyddyn yn ôl.

Ers hynny mae yna wrthwynebiad lleol wedi bod ers i'r cynllun.

Roedd Cyngor Gwynedd yn ystyried cau'r cartref gan gynnig buddsoddi £6.5 miliwn ar y cyd gyda Chymdeithas Tai Eryri mewn darpariaeth llety a gofal hunangynhaliol ar safle'r cartre'.

Gofal preswyl

Cyfeillion Hafod y Gest oedd wedi trefnu'r brotest ddydd Sadwrn.

Maen nhw am weld gofal preswyl yn parhau ar y safle.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrchwyr yn derbyn bod angen adnewyddu'r adeilad

"Rydan ni'n pryderu bod Cyngor Gwynedd eisiau gwneud tua 40 o fflatiau hunangynhaliol ar y safle ac y byddai gofal preswyl yn cael ei golli yn y cartref," meddai Martha Hughes o Gymdeithas Cyfeillion Hafod Eryri.

"Ry'n ni'n teimlo nad ydi'r cyngor yn ystyried be' mae trigolion y cartre' eisiau.

"Maen nhw'n mynd yno er mwyn cael gofal 24 awr y dydd saith niwrnod yr wythnos, i gael cwmni.

"Os fyddan nhw'n gorfod mynd i'r fflatiau fe fydd rhaid iddyn nhw wneud eu bwyd brecwast a swper eu hun a chael cinio yn y caffi ar y safle.

"Mae pobl yn mynd i gartre' yn disgwyl cael popeth wedi ei wneud drostyn nhw neu fe fyddan nhw'n aros yn eu cartrefi eu hunain."

Ymgynghoriad

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, bod y cyngor llawn wedi gwrthod argymhellion oedd yn cynnwys dod a defnydd Hafod y Gest fel cartref preswyl i ben a datblygu tai gofal ychwanegol ar y safle ar Ragfyr 15 2011.

"Cytunodd y cyngor i fynd yn ôl i drafod yn dryloyw a thrwyadl er mwyn sicrhau darpariaeth sy'n addas ar gyfer gofynion a dyheadau'r gymuned, a dod ag adroddiad llawn yn ôl i'r Cyngor ymhen chwe mis," meddai.

"Mae gwaith paratoi i'r ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen gan edrych ar yr anghenion lleol ac a oes unrhyw newid wedi digwydd ers cynnal yr adolygiad strategol preswyl a nyrsio."

Fe wnaeth Mrs Hughes gydnabod bod angen adnewyddu'r cartre' presennol ac yn derbyn ymateb y cyngor.

"Rydan ni'n gobeithio y bydd gofal preswyl yn parhau ar y safle," ychwanegodd.

"Dydan ni ddim yn meindio cael ychydig o fflatiau, tua hanner dwsin, ond mae'n bwysig cael gofal preswyl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol