Ardaloedd menter Cymru'n dod i rym

  • Cyhoeddwyd
Edwina HartFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Edwina Hart yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain i geisio sicrhau lwfansau busnes ar gyfer ardaloedd menter eraill yng Nghymru

Mae pum ardal fenter newydd yn dod i fodolaeth yng Nghymru ddydd Llun, y tro cyntaf ers yr 1980au.

Mae'r ardaloedd yn cynnig cyfres o fesurau i helpu cwmnïau i ehangu a datblygu, a'r nod yw cefnogi diwydiannau allweddol a sicrhau bod economi Cymru'n fwy cystadleuol.

Ond mae trafodaethau'n parhau ynglŷn ag un o fanteision pennaf yr ardaloedd, a hynny'n ymwneud â threthi.

Mi fydd un o'r ardaloedd menter wedi ei lleoli yng nghanol Caerdydd, lle bydd y pwyslais ar wasanaethau ariannol.

Gweithgynhyrchu fydd yn cael y prif sylw ym Mlaenau Gwent, a Glannau Dyfrdwy.

Mae yna obaith y bydd y diwydiant awyrennau yn cael hwb yn Sain Tathan ac ardal maes awyr Caerdydd.

Bydd ardal Ynys Môn yn canolbwyntio ar Ynni.

Disgrifiad,

Adroddiad Rhodri Llwyd

Mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i sefydlu ardaloedd tebyg ym Mhenfro a Thrawsfynydd.

Newidiadau trethi

Mi fydd yna gyfle i gwmnïau gael hyfforddiant arbenigol i staff, a bydd 'na wellianau i ffyrdd yn yr ardaloedd.

Yn y dyfodol, y nod yw symleiddio'r broses gynllunio.

Ond, dim ond yng Nglannau Dyfrdwy mae'r prif abwyd sydd ynghlwm â'r cynllun, sef newidiadau i drethi i'w gwneud hi'n haws i gwmnïau brynu peiriannau.

Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno'r un cynllun yn y pedair ardal fenter arall.

Dywedodd Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart: "Mae Glannau Dyfrdwy yn hollbwysig yn strategol i Gymru ar gyfer gweithgynhyrchu a bydd y lwfans busnes yn cadarnhau hynny ac yn annog mwy o fuddsoddiad.

'Cam cyntaf'

"Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol i gytuno ar sut y gellir cyflwyno a gweithredu'r lwfans er mwyn cael y budd economaidd mwya' posib.

"Ond mae Llywodraeth Cymru eisiau lwfansau busnes i weithio'n galed i Gymru felly rwy'n dal i geisio cael hyblygrwydd gan y Trysorlys o ran lefel gyffredinol y lwfansau yng Nghymru a nifer y safleoedd fydd yn gallu eu cynnig nhw.

"Dim ond cam cyntaf ydy lansio'r pum ardal fenter ddydd Llun - mae'n dangos fod Cymru yn agored ar gyfer busnes."

Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Fusnes, Eluned Parrott AC: "Tra bod unrhyw ddatblygiad o ran ardaloedd menter i'w groesawu, fyddwn i ddim yn cyffroi gormod am y cyhoeddiad hwn.

"Fel mae Edwina Hart yn ei ddweud, dim ond 'cam cyntaf' ydy hyn. Dyw hi'n dal ddim yn glir beth yn union mae'r ardaloedd menter yn ei olygu.

"Fe fydda' i'n cyffroi go iawn pan fydd arian go iawn yn cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd hyn, swyddi yn cael eu creu a GDP Cymru'n cynyddu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol