Roberts 'ddim yn chwarae am chwe mis'
- Cyhoeddwyd

Roberts: Allan am chwe mis?
Mae Gleision Caerdydd wedi dweud y bydd Jamie Roberts yn colli gweddill y tymor am fod angen llawdriniaeth ar ei ben-glin.
Bydd y canolwr rhyngwladol yn colli'r gêm bwysig yn rownd go gynderfynol Cwpan Heineken yn erbyn Leinster.
"Mae hon yn gêm rwy' wedi bod yn edrych ymlaen ati am beth amser ond, yn anffodus, dyw fy nghorff ddim yn caniatáu i mi fod yn rhan o achlysur mor fawr," meddai ar wefan y clwb.
"Yn wreiddiol, fe wnes i anafu'r pen-glin ym Mharis wrth chwarae yn erbyn Racing Metro ar ôl dychwelyd o Gwpan y Byd.
Niweidio pen-glin
"Oherwydd gwaith gwych staff meddygol y Gleision ac Undeb Rygbi Cymru roedd y pen-glin yn ddigon da i chwarae i'r Gleision ac i Gymru wrth gipio'r Gamp Lawn."
Ychwanegodd fod llawfeddyg wedi dweud ar ôl y gêm yn erbyn Glasgow nos Wener nad oedd modd iddo chwarae eto heb niweidio'r pen-glin yn fwy.
Mae'n debyg bydd y llawdriniaeth yn golygu o leiaf chwe mis o seibiant.
Felly ni fydd ar gael ar gyfer cyfres brawf Cymru yn erbyn Awstralia yn yr haf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012