Roberts a Priestland yn chwarae
- Cyhoeddwyd
Roedd hwb sylweddol i dîm rygbi Cymru cyn gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am fod Jamie Roberts a Rhys Priestland yn ddigon iach i chwarae.
Dyw'r newyddion ddim cystal am y blaenasgellwr Dan Lydiate - nid yw anaf chwaraewr y Dreigiau wedi gwella.
Bydd yntau ac Gethin Jenkins, Alun Wyn-Jones, Luke Charteris, Lloyd Burns a Matthew Rees yn gwylio'r gêm o bell.
Nid yw Jamie Roberts wedi chwarae ers mis Rhagfyr oherwydd anaf i'w ben-glin ac fe gafodd Rhys Priestland anaf yn y gêm yng Nghwpan Heineken yn erbyn Castres bythefnos yn ôl.
Bydd Huw Bennett yn ennill ei hanner canfed cap fel bachwr yn absenoldeb Rees a bydd prop y Saracens, Rhys Gill, yn dechrau'r gêm i Gymru am y tro cyntaf yn lle Jenkins.
'Cadw cysondeb'
Roedd dyfalu pwy fyddai'n gwisgo crys rhif 11 Shane Williams - yr ateb yw George North sy'n symud o'r asgell dde, gydag Alex Cuthbert yn rhif 14.
Wrth gyhoeddi'r tîm dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland: "Rydyn ni wedi gallu cadw cysondeb mewn nifer o feysydd allweddol.
"Ac rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed ac yn teimlo ein bod ni'n mynd i'r gêm gyda'r agwedd gywir.
"Mae'r ddau dîm yn adnabod ei gilydd yn dda. Bydd Iwerddon yn benderfynol o wneud yn iawn ar ôl colli i ni yn Seland Newydd (Cwpan Y Byd) ond fe fyddwn ni'r un mor benderfynol."
Ers i'r bencampwriaeth gynnwys chwe thîm, dim ond dwywaith y mae Cymru wedi ennill yn Nulyn tra bod Iwerddon wedi ennill saith o weithiau ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth.
TÎM CYMRU YN ERBYN IWERDDON - Ddydd Sul, Chwefror 5, 2012.
Olwyr:-
15. Leigh Halfpenny (Gleision)
14. Alex Cuthbert (Gleision)
13. Jonathan Davies (Scarlets)
12. Jamie Roberts (Gleision)
11. George North (Scarlets)
10. Rhys Priestland (Scarlets)
9. Mike Phillips (Bayonne)
Blaenwyr :-
1. Rhys Gill (Saracens)
2. Huw Bennett (Gweilch)
3. Adam Jones (Gweilch)
4. Bradley Davies (Gleision)
5. Ian Evans (Gweilch)
6. Ryan Jones (Gweilch)
7. Sam Warburton (capten, Gleision)
8. Toby Faletau (Dreigiau)
Eilyddion :-
Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Andy Powell (Sale Sharks), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2012