Portmeirion yn gosod ei stamp

  • Cyhoeddwyd

Bydd Portmeirion yn cynrychioli Cymru ar set newydd stampiau'r Post Brenhinol o ddydd Mawrth ymlaen.

Cyhoeddir y casgliad i adlewyrchu hanes Prydain.

Cafodd y gyfres gyntaf, llythrennau A-L, ei chyhoeddi ym mis Hydref y llynedd gan gynnwys Castell Harlech, sy'n cynrychioli'r llythyren H.

Ddydd Mawrth cyhoeddir yr ail gyfres o stampiau, llythrennau M-Z, gan gynnwys Portmeirion sy'n cynrychioli'r llythyren P.

Sefydlwyd y pentref ym 1925 pan brynwyd yr ystâd gan y pensaer, Clough Williams-Ellis.

Rhwng 1925 a 1975, parhaodd Williams-Ellis i ddatblygu'r pentref yn null gwledydd y Môr Canoldir, gan gynnwys ambell ddarn o adfeilion a gwaith nifer o benseiri eraill.

Crëwyd yr enw Portmeirion gan Williams-Ellis fel cyfuniad o ddau air - 'Port' i adlewyrchu ei leoliad ar yr arfordir, a 'Meirion' i gynrychioli hen sir Feirionnydd.

Lansiwyd y stamp ym Mhortmeirion gan Elfyn Llwyd, AS Dwyfor Meirionnydd, a'r AC, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Dywedodd Mr Llwyd: "Mae'r stamp hwn wedi llwyddo i gyfleu naws Portmeirion.

"Rwy'n falch dros ben o fod yn y lansiad. Bydd pobl nawr yn gallu prynu'r stampiau hyn, a fydd yn ychwanegu at atyniad Portmeirion."

Cadeirlan Caerefrog

Dechreuodd y daith A-Z ym mis Hydref y llynedd, pan lansiwyd Rhan 1 â deuddeg o stampiau Dosbarth Cyntaf yn cynrychioli'r llythrennau A i L.

Nawr mae Rhan 2 yn dadlennu 14 o leoedd adnabyddus eraill ar draws y DG, gan adlewyrchu rhychwant ein hetifeddiaeth.

Mae'r ail set yn ailgydio yn y daith â'r llythyren M ac yn parhau hyd at Z - gan ddod â'r gyfres ddiddorol hon i'w therfyn naturiol.

Ac oherwydd y ffordd y cafodd y stampiau hyn eu hargraffu, gallwch brynu stribed o bump o stampiau Portmeirion.

Mae'r set o 14 o stampiau yn cynnwys y lleoedd adnabyddus fel yr Old Bailey yn Llundain, Coleg y Frenhines Rhydychen, Cadeirlan Caerefrog a Neuadd y Dref Manceinion.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Portmeirion Cyf: "Mae gan Bortmeirion enw da ymhell ac yn agos am ei brydferthwch a'i gymeriad, ac mae'n addas iawn y bydd y stampiau hyn yn cludo'r neges honno ar draws y byd er mwynhad i bawb."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol